Gwell Busnes
Gall gwefan Gwell Busnes yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch helpu busnesau bach i arbed arian trwy wella iechyd a diogelwch.
Gall damweiniau a salwch a achosir gan waith gostio arian ac amser i fusnesau bach.
Lleihau Damweiniau - Arbed Amser ac Arian
Mae rhaglen iechyd a diogelwch dda ar gyfer eich busnes yn sicrhau bod yr elw yr ydych wedi gweithio mor galed i'w ennill yn cael aros yn y banc yn hytrach na chael ei wario ar broblemau'n ymwneud â damweiniau neu salwch. Mae hyn yn golygu mwy o arian i chi.
Mae iechyd a diogelwch da yn y gweithle yn fusnes da. Dysgwch sut ar wefan Gwell Busnes yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch:
- 'Da i fusnes' - gostwng costau damweiniau a salwch
- Rhagofalon iechyd a diogelwch hawdd ac effeithiol
- Dechrau arni - camau syml
- Offer i'ch helpu ar eich ffordd - cwis ar lein i brofi eich gwybodaeth
Mae'r llyfryn 'Cyflwyniad i Iechyd a Diogelwch' yn cynnig mwy o wybodaeth fanwl i fusnesau bach. Mae tudalennau gwe 'Gwell Busnes' ar wahân i fusnesau mawr sydd â dros 250 o weithwyr.
Gwefan allanol yw Gwell Busnes ac nid yw Cyngor Bwrdeistref Torfaen yn gyfrifol am ei chynnwys.
Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Nôl i’r Brig