Cael cyngor pellach

Ar ôl pori trwy'r gwasanaethau cynghori a'r offer ar-lein yn yr adran hon, o ble arall y cewch chi gymorth?

Gallwch gael rhagor o gyngor a lawrlwytho neu archebu ystod eang o gyhoeddiadau am ddim o wefannau nifer o sefydliadau gwahanol, gan gynnwys:

  • Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yng Nghymru (RoSPA). Mae ganddi becyn defnyddiol sy'n cynnig cyngor i gwmnïau llai - Rheoli Iechyd a Diogelwch.
  • Llinell Wybodaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) - ffoniwch 0845 345 0055 am fynediad cyflym at gyfoeth o wybodaeth, cyngor arbenigol a chyfarwyddyd cyfrinachol ar iechyd a diogelwch.

Os ydych yn gyflogwr neu'n cael eich cyflogi yn Nhorfaen, gallwch hefyd gysylltu â swyddogion iechyd a diogelwch y cyngor am gyngor ac arolygiadau.

Mae gennym stoc gyfyngedig o gyhoeddiadau printiedig yn ein swyddfeydd, yn cynnwys taflenni HSE ar gyfer busnesau yn Nhorfaen nad oes ganddynt fynediad i'r rhyngrwyd.

Y tu allan i Dorfaen, dylech gysylltu â'ch cyngor dosbarth neu eich cyngor dinas lleol. Defnyddiwch Ganllaw A-Y gov.uk ar gyfer Cynghorau Lleol yn y DU.

Gwefannau Eraill

Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen

Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig