Offeryn Ar-lein Safe Start Up

Mae gan safestartup.org offeryn ar-lein i helpu busnesau bach â chyfraith iechyd a diogelwch.

Fe'i cynhyrchwyd gan y Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (IOSH) a chaiff ei gefnogi gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r Gwasanaeth Busnesau Bach.

Ewch ar daith ryngweithiol Safe Start Up ar wefan IOSH, sef canllaw cam wrth gam i'ch helpu i ganfod yr hyn y mae angen i chi ei wneud o ran iechyd a diogelwch, yn seiliedig ar eich math o fusnes a faint o bobl rydych yn eu cyflogi.

Gall Safe Start Up helpu busnesau bach a chwmnïau newydd i gydymffurfio â rheoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol.

Mae'r daith ar-lein yn cynnwys: 

  • cofrestru eich busnes
  • llunio polisi iechyd a diogelwch
  • yswiriant
  • cofnodi damweiniau
  • cyfleusterau lles a diogelwch tân
  • asesu risg
  • arweiniad penodol ar gyfer gwahanol fathau o fusnesau

I weld y daith ryngweithiol gyfan, bydd angen Adobe Flash Player fersiwn 7 arnoch. Mae fersiwn arall hygyrch ar gael hefyd, heb Flash.

Mae Safe Start Up yn wefan allanol ac nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gyfrifol am ei chynnwys.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen

Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig