Adolygiad o Orsafoedd Pleidleisio
Bob pum mlynedd, mae angen i awdurdodau lleol adolygu dosbarthiadau etholiadol a gorsafoedd pleidleisio lleol i sicrhau eu bod yn gyfleus ac yn hygyrch i bleidleiswyr.
Ym mis Ionawr 2024, pleidleisiodd cynghorwyr o blaid cynlluniau i wneud newidiadau i 14 o orsafoedd pleidleisio a saith dosbarth etholiadol yn Nhorfaen.
Fe fydd y gofrestr etholiadol yn cael ei hailgyhoeddi ar 1 Chwefror, ac anfonwyd llythyron at bob aelwyd y mae’r newidiadau yn effeithio arni.
Dyma’r newidiadau:
Adolygiad o Orsafoedd Pleidleisio
Enw | Rheswm dros yr adolygiad | Dewis amgen |
Neuadd Eglwys Sant Paul |
Nid yw'r adeilad a'r llwybr yn gwbl hygyrch |
Adleoli i Ganolfan Hamdden Blaenafon sy'n hygyrch, yn cynnig mannau parcio a goleuadau da. Dim dewis arall. |
Neuadd y pensiynwyr Talywaun |
Dim parcio a mynediad cyfyngedig i bleidleiswyr anabl |
Symud i Glwb Rygbi Talywaun sy’n cynnig goleuadau da, mannau parcio ac mae’n hygyrch. Yr unig opsiwn sydd ar gael. |
Gabby’s Diner |
Dim parcio na mynediad i'r anabl |
Symud i Ganolfan Gymunedol Bryn Seion a chyfuno’r dosbarthiadau pleidleisio. Yr unig opsiynau sydd ar gael. |
Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Pontnewynydd |
Mae'r adeilad allan o'r ardal |
Nid oes unrhyw adeiladau eraill ar gael |
Tafarn yr Unicorn |
Nid yw'r adeilad bellach ar gael i'w logi |
Symud i adeilad Unite, sydd â mannau parcio da ac mae’n hygyrch iawn. Bydd yn cael ei defnyddio fel gorsaf bleidleisio yn unig ar ddiwrnod yr etholiad. |
Neuadd Eglwys Santes Hilda |
Mae'r orsaf bleidleisio ar yr 2il lawr, ac nid yw'r lifft yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Nid yw'r llawr gwaelod ar gael |
Symud i Neuadd Gymunedol Tref Gruffydd. |
Neuadd Ambiwlans Sant Ioan |
Mae hon yn orsaf ddeuol ond mae’n gyfyngedig iawn. |
Symud i Eglwys Lighthouse a Panteg House sy’n bodloni’r gofynion. |
Ysgol Gynradd Coed Eva |
Yn unol â chais i ddefnyddio safleoedd eraill yn hytrach nag ysgolion. |
Symud i’r Caban Gwyn a fydd yn dod yn orsaf ddeuol. |
Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road |
Yn unol â chais i ddefnyddio safleoedd eraill yn hytrach nag ysgolion. |
Gorsafoedd deuol yn symud i’r Pwerdy a Cheeky Monkeys |
Ysgol Gynradd Mair a’r Angylion |
Wedi derbyn ceisiadau i ddychwelyd yr orsaf dros dro yn neuadd yr eglwys i'r ysgol |
Symud i adeilad cymunedol ar dir yr ysgol. Mae gan yr adeilad fynediad ar wahân i’r ysgol a gall aros ar agor drwy’r dydd ar y diwrnod pleidleisio. |
Cyfuno cofrestri BB a BC yn Neuadd y Mileniwm Garndiffaith |
|
Un gofrestr i wella effeithlonrwydd |
Cyfuno cofrestri CC a CB |
|
Un gofrestr yn lle dwy |
Wedi symud CP o Neuadd Mount Pleasant i Ganolfan Gymunedol Gorllewin Pontnewydd a chyfuno dosbarthiadau |
|
Un gofrestr yng Nghanolfan Gymunedol Gorllewin Pontnewydd i leihau nifer y gorsafoedd sydd eu hangen. |
Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2024
Nôl i’r Brig