Adolygiad o Ffiniau Llywodraeth Leol

Yn dilyn Adolygiad Ffiniau Llywodraeth Leol, mae Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Torfaen (Trefniadau Etholiadol) 2021, wedi'i lofnodi gan y Gweinidog ac mae bellach mewn grym.

Mae'r argymhellion a wnaed gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru, wedi eu derbyn, ac maent fel a ganlyn:

  • lleihau nifer y cynghorwyr o 44 i 40
  • lleihau nifer y wardiau o 24 i 18
  • lleihau nifer y cynghorwyr yn ward Greenmeadow o 2 i 1
  • lleihau nifer y cynghorwyr yn ward Cwmbrân Uchaf o 3 i 2
  • cyfuno wardiau Gogledd Croesyceiliog a De Croesyceiliog a lleihau nifer y cynghorwyr o 3 i 2
  • cyfuno wardiau Brynwern, Waunfelin, Pont-y-pŵl a Cwm-ynys-cou a lleihau nifer y cynghorwyr o 4 i 3
  • cyfuno wardiau Trefddyn a Phen-y-garn a lleihau nifer y cynghorwyr o 3 i 2
  • cyfuno wardiau Pontnewynydd a Choed Llwyd i greu’r ward Pontnewynydd a Choed Llwyd heb ostwng nifer y Cynghorwyr
  • cynyddu nifer y cynghorwyr yn ward Llantarnam o 2 i 3

Bydd wardiau etholiadol Llywodraeth Leol, o fis Mai 2022, fel a ganlyn:

Wardiau etholiadol Llywodraeth Cymru o fis Mai 2022
Ward EtholiadolNifer yr aelodau cyn

Abersychan

3

Blaenafon

3

Coed Eva

1

Croesyceiliog

2

Fairwater

2

Dôl Werdd

1

Llantarnam

3

Llanyrafon

1

Llanfrechfa a Phonthir

1

Y Dafarn Newydd

3

Panteg

3

Pontnewydd

3

Pontnewynydd a Choed Llwyd

2

Pont-y-pŵl Fawr

3

Sain Derfel

2

Trefddyn a Phen-y-garn

2

Dwy Loc

3

Cwmbrân Uchaf

2

Diwygiwyd Diwethaf: 14/12/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Electoral Registration

Ffôn: 01495 766077

Ebost: voting@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig