Y Canfasiad Blynyddol

Bob haf, bydd aelwydydd yn cael ffurflen ganfasio sy'n dangos pwy sydd wedi'i restru ar y Gofrestr Etholiadol yn eich cyfeiriad.

Darllenwch  eich ffurflen yn ofalus gan fod yn rhaid i chi ymateb os oes angen.

Gallwch ychwanegu enw person cymwys newydd trwy lenwi ei fanylion, neu gallwch dynnu enw rhywun oddi ar y rhestr drwy eu croesi allan.

Sylwch: os oes person cymwys newydd yn eich cartref, bydd angen iddynt gofrestru i bleidleisio ar wahân. 

Os byddai'n well gennych dderbyn eich ffurflen ganfasio drwy e-bost yn y dyfodol, nodwch hynny pan fyddwch yn dychwelyd eich ffurflen bapur.    

Mae'n orfodol i chi ymateb os oes angen i chi wneud hynny. Gallai methu i wneud hynny arwain at ymddangosiad llys, dirwy o hyd at £1,000 a chofnod troseddol.  

Mae'r gofrestr agored yn cael ei dynnu o'r gofrestr etholiadol. I gael eich hepgor o'r gofrestr agored, cysylltwch ar voting@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01495 762200.   

Diwygiwyd Diwethaf: 26/02/2026
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestru Etholiadol

Ffôn: 01495 762200

E-bost: voting@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig