Cofrestru i Bleidleisio
Rhaid eich bod wedi cofrestru gyda'r Comisiwn Etholiadol cyn y gallwch bleidleisio.
Mae cofrestru hefyd yn helpu gyda chais am forgais, benthyciad, cerdyn credyd a ffôn symudol.
Os nad ydych wedi cofrestru o'r blaen, gallwch gofrestru i bleidleisio yma.
Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cofrestru, neu os yw eich manylion wedi newid, gallwch wirio’ch manylion a’u diweddaru fel rhan o'r canfasiad blynyddol, sy'n digwydd bob haf.
Gallwch hefyd gysylltu ar voting@torfaen.gov.uk
Mae'n ofyniad cyfreithiol bod pob dinesydd cymwys yn cofrestru.
Pwy all gofrestru?
Gall unrhyw un sy'n 14 oed a hŷn gofrestru os ydynt yn ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig.
Gallwch hefyd gofrestru os oes gennych ganiatâd i ddod i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw ac aros yno.
Gallwch gofrestru os oes gennych gysylltiad â'r fwrdeistref ond heb gyfeiriad parhaol neu sefydlog.
Gall aelodau o'r lluoedd arfog a'u partneriaid gofrestru fel pleidleisiwr sy’n gwasanaethu.
Cofrestru’n ddienw
Os ydych chi'n teimlo y byddwch mewn perygl os bydd eich enw yn ymddangos ar y gofrestr etholwyr, gallwch wneud cais i gael eich cofnodi'n ddienw. Gall unrhyw berson sy'n byw gyda chi hefyd wneud cais i bleidleisio yn y modd hwn.
Bydd angen i chi lenwi ffurflen, rhoi rhesymau, dangos tystiolaeth ddogfennol a chael un o’r canlynol i gefnogi eich cais; naill ai:
- Arolygydd yr heddlu neu reng sy’n uwch
- Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gwasanaeth Diogelu
- Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol
- Cyfarwyddwr unrhyw wasanaethau cymdeithasol i oedolion
- Ymarferydd meddygol cofrestredig
- Unrhyw un sy'n rheoli lloches.
I wneud cais i gofrestru'n ddienw, cysylltwch ar voting@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 26/02/2026
Nôl i’r Brig