Sut i Bleidleisio
Rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda'r Gofrestr Etholiadol i bleidleisio mewn unrhyw etholiad.
Dysgu sut i gofrestru.
Pwy all bleidleisio?
Gall pobl ifanc 14 a 15 oed gofrestru i bleidleisio yng Nghymru, a gall pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau Llywodraeth Leol.
Mae angen i chi fod yn 18 i bleidleisio yn etholiadau'r DU, er bod deddfwriaeth yn cael ei gyflwyno i ganiatáu i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol nesaf, y mae'n rhaid ei alw erbyn Awst 2029.
Gall myfyrwyr sydd â chyfeiriad cartref a chyfeiriad yn ystod y tymor, gofrestru i bleidleisio yn y ddau gyfeiriad. Mewn etholiadau cyngor lleol gallwch bleidleisio yn y ddau le os ydynt mewn gwahanol fwrdeistrefi. Mewn etholiad cyffredinol rhaid i chi ddewis pleidleisio mewn un lle.
Gall pleidleiswyr o Brydain sy'n byw dramor, bleidleisio yn etholiadau'r DU, waeth pa mor hir maen nhw wedi byw dramor.
Pleidleisio mewn Gorsaf Bleidleisio
Tua phedair wythnos cyn etholiad byddwch yn cael eich cerdyn pleidleisio yn y post. Ar y cerdyn hwn fe welwch fanylion sy’n nodi pryd, ble a sut i bleidleisio.
Mae'n haws os byddwch chi’n mynd â’r cerdyn gyda chi pan fyddwch chi'n pleidleisio, er y gallwch bleidleisio hebddo.
Bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig i bleidleisio yn etholiadau'r DU, gan gynnwys etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Os nad oes gennych ID ffotograffig sy’n cael ei dderbyn, gallwch fynd ati a gwneud cais am “ID ffotograffig i bleidleisio” sy’n rhad ac am ddim.
Mae gan bob gorsaf bleidleisio bythau pleidleisio hygyrch ac eitemau i’ch helpu i fwrw eich pleidlais. Er enghraifft, dyfais bleidleisio gyffyrddol, chwyddwydr mawr, teclynnau gafael pensil, system dolen sain, a gwybodaeth sy’n hawdd ei darllen.
Gall unrhyw un sydd dros 18 oed fynd gyda chi i’r orsaf bleidleisio i'ch helpu i bleidleisio, gan gynnwys gofalwyr nad ydynt efallai eu hunain yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad.
Pleidleisio trwy'r Post
Mae'r broses ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy’r post yng Nghymru yn dibynnu ar y math o etholiad:
Mae angen i chi lenwi cais newydd i bleidleisio drwy’r post os ydych chi wedi symud tŷ neu wedi newid eich enw.
O ran etholiadau Senedd y DU a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, bydd angen i chi ailymgeisio bob tair blynedd.
O ran etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol, gallwch gael pleidlais drwy’r post am gyfnod amhenodol, ond bydd ein tîm etholiadau yn cysylltu â chi i adnewyddu eich llofnod ar ôl pum mlynedd.
Pleidleisio trwy Ddirprwy
Mae pleidleisio trwy ddirprwy yn golygu cael rhywun i bleidleisio ar eich rhan. Gall hyn fod wyneb yn wyneb yn eich gorsaf bleidleisio arferol neu drwy'r post.
Gall unrhyw un fod yn ddirprwy i chi cyn belled â'u bod yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau'r DU a'u bod yn fodlon pleidleisio ar eich rhan.
Gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad penodol neu bob etholiad.
Diwygiwyd Diwethaf: 26/02/2026
Nôl i’r Brig