Atodlen Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau

O flwyddyn ariannol 2012/13 ymlaen, mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPfW) yn mynnu bod pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn cynhyrchu, cyhoeddi a chynnal Atodlen flynyddol o Gydnabyddiaeth Ariannol Aelodau.

Mae'n rhaid i'r Atodlen gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Aelodau a enwyd sydd i dderbyn y Cyflog Sylfaenol yn unig.
  • Aelodau a enwyd sydd i dderbyn Cyflog Uwch Band 1 a Band 2, y swydd a'r portffolio a ddelir a'r swm sydd i'w dalu
  • Aelodau a enwyd sydd i dderbyn Cyflog Uwch Band 3 a Band 4, y swydd a'r portffolio a ddelir a'r swm sydd i'w dalu
  • Aelodau a enwyd sydd i dderbyn y ffi Aelod Cyfetholedig a pha un a ydynt yn gadeirydd neu'n aelod cyffredin

Mae'n rhaid rhoi gwybod i'r Panel am unrhyw ddiwygiadau a wnaed i'r Atodlen yn ystod y flwyddyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

Mae'n rhaid i'r Atodlen gadarnhau nad aethpwyd yn uwch na'r terfyn uchaf a bennwyd ar Cyflogau Uwch yn y cyngor, ac mae'n rhaid iddi hefyd gynnwys datganiad ynghylch dyletswyddau a ganiateir y gall aelodau hawlio costau gofal, teithio a chynhaliaeth ar eu cyfer. Dylai hefyd gynnwys y canlynol:

  • Pa un a oes datganiad wedi'i sefydlu ynghylch cyfrifoldeb sylfaenol cynghorydd
  • Pa un a oes disgrifiadau rôl wedi'u sefydlu ar gyfer deiliaid swyddi cyflog uwch
  • Pa un a yw cofnodion yn cael eu cadw o bresenoldeb cynghorwyr
  • Pa un a yw cofnodion yn cael eu cadw o unrhyw weithgarwch gan gynghorwyr
  • Pa un a yw adroddiadau blynyddol yn cael eu paratoi gan gynghorwyr, a'u cyhoeddi ar wefan y cyngor.

Gellir gweld Atodlen Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2023/2024 Torfaen yma

Diwygiwyd Diwethaf: 21/07/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Democrataidd

Ffôn: 01495 766262

Nôl i’r Brig