Cerbydau Wedi'u Gadael
Nid oes diffiniad cyfreithiol o gerbyd wedi'i adael, ond gellir ystyried bod cerbyd wedi'i adael os ydyw:
- Heb dreth a heb geidwad cofrestredig ar gofnodion y DVLA
- Wedi'i ddifrodi'n sylweddol, wedi mynd â’i ben iddo neu nad yw’n addas i’w yrru ar y ffordd
- Wedi ei losgi’n ulw
- Heb un neu fwy o'i blatiau rhif
- Os yw’n llawn sbwriel neu wastraff
- Heb symud am gyfnod sylweddol o amser
- Cerbyd nad oes unrhyw un byth yn dychwelyd ato
Nid yw'r ffaith bod cerbyd mewn cyflwr gwael neu heb ei drethu yn golygu ei fod wedi'i adael ac efallai y bydd angen gwneud ymholiadau i ganfod a yw wedi'i adael cyn y gellir ei symud.
Gallwch ganfod a yw cerbyd wedi ei drethu ar vehicleenquiry.service.gov.uk
Os oes gan y cerbyd dreth dilys, peidiwch â’i riportio fel un sydd wedi'i adael.
Os yw cerbyd heb dreth, dylech rhoi gwybod i’r DVLA.
Os yw cerbyd ar dir preifat, mae'n rhaid i ni gyflwyno rhybudd o 15 diwrnod i berchennog y tir. Pan fydd y 15 diwrnod wedi dod i ben, bydd y cerbyd yn cael ei drin fel pe bai ar briffordd.
Os yw cerbyd yn achosi rhwystr ar y briffordd, neu os credir ei fod wedi'i ddwyn neu ei fod wedi bod yn rhan o drosedd, rhowch wybod i Heddlu Gwent ar 01633 838111.
Rhoi gwybod am gerbyd wedi'i adael
I roi gwybod am gerbyd wedi'i adael, rhowch y canlynol:
- Lleoliad y cerbyd
- Pa mor hir mae’r cerbyd wedi bod yno
- Gwneuthuriad a lliw'r cerbyd
- Rhif cofrestru’r cerbyd
- Cadarnhad bod y cerbyd heb dreth
- Cyflwr y cerbyd yn gyffredinol
Adrodd ar-lein am gerbyd wedi'i adael
Diwygiwyd Diwethaf: 12/05/2026
Nôl i’r Brig