Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Mae trolïau siopa wedi'u gadael yn gallu bod yn fwy na dim ond hyll. Os cânt eu gadael mewn man amhriodol, gallant achosi perygl i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr y ffordd fawr, yn ogystal â denu tipio anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae'r archfarchnadoedd lleol yn Nhorfaen yn gwneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer trolïau sy'n cael eu gadael a gwneir y gwaith hwn gan gwmni preifat o'r enw Trolleywise.

Os yw troli yn achosi perygl uniongyrchol i'r cyhoedd, mae'r cwmni'n ymdrechu i gael gwared arno o fewn 24 awr.

Beth allaf i ei wneud i helpu?

Er mwyn helpu i leihau nifer y trolïau siopa sy'n cael eu gadael, gallwch wneud y canlynol:

  • Pan fyddwch wedi defnyddio'r troli siopa, gadewch ef mewn man synhwyrol fel bae trolïau mewn archfarchnad neu faes parcio canol tref, yn barod i'r siop ei gasglu.
  • Peidiwch â defnyddio troli siopa i gludo eich siopa adref.
  • Os byddwch yn sylwi ar droli siopa sydd wedi'i adael, rhowch wybod i'r archfarchnad amdano yn uniongyrchol.

Sut ydw i'n rhoi gwybod am droli siopa sydd wedi'i adael?

Yn y lle cyntaf, dylai pobl sy'n gweld troli siopa wedi'i adael gysylltu â'r siop berthnasol:

  • ASDA – 01633 645300
  • Iceland - 01633 863951
  • Tesco – 01495 267400
  • B&Q – 01633 877323
  • Aldi – 08444 068800
  • Lidl – 08704 441234
  • Farm Foods – 01495 762312
  • Sainsbury - 01633 869736

Os nad yw siop yn ymateb i alwad o fewn 24 awr, yna dylai trigolion gysylltu â Trolleywise (yn agor mewn tab newydd) neu Collex (yn agor mewn tab newydd).

Sylwer: Diffiniad - Mae 'troli siopa' yn droli y mae perchennog y siop yn ei ddarparu i gwsmeriaid er mwyn eu galluogi i gludo nwyddau a brynwyd yn y siop. Nid yw'r diffiniad hwn yn cynnwys trolïau sy'n rhedeg ar bŵer. Mae'r pwerau yn Neddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 yn berthnasol i drolïau mewn unrhyw gyflwr ac, felly, gallant gael eu defnyddio yn gysylltiedig â throlïau nad oes modd eu defnyddio eto a rhannau o drolïau.