Torri Porfa

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gyfrifol am dorri porfa ar dir sydd ym mherchenogaeth y Cyngor, gan gynnwys parciau a mannau agored. 

Yn Nhorfaen, rydym yn cynnal rhwydwaith o ffyrdd, llwybrau beicio a llwybrau cerdded. Porfa sydd wrth ymyl rhan sylweddol o'r rhwydwaith hwn. Felly, mae torri porfa yn rhan bwysig o'n rhaglen cynnal a chadw ar gyfer priffyrdd. 

Caiff porfa ei thorri:

  • fel bod defnyddwyr y ffordd yn gallu gweld yn glir 
  • i gadw arwyddion traffig yn glir 
  • fel bod cerddwyr, beicwyr a marchogwyr yn gallu teithio ar hyd yr ymylon  
  • fel bod ymylon ffyrdd yn edrych yn daclus mewn ardaloedd preswyl

Torri porfa mewn ardaloedd gwledig 

Mewn ardaloedd gwledig, byddwn yn torri porfa ar ymylon ffyrdd gerllaw troeon, mynedfeydd neu gyffyrdd o leiaf ddwywaith y flwyddyn i gadw llinellau golwg yn glir ac atal unrhyw beth rhag rhwystro golwg modurwyr. Bydd ymylon gwledig a ddefnyddir yn aml gan gerddwyr yn cael eu torri o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Mae ymylon ffyrdd mewn ardaloedd gwledig yn cynnig cynefinoedd pwysig ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau. O ganlyniad, dim ond ddwywaith y flwyddyn y byddwn yn torri lled cyfyngedig ar y rhan fwyaf o ymylon gwledig. Trwy dorri cyn lleied o ardal â phosibl, gall yr ardal sy'n weddill gynnig cynefin ar gyfer blodau ac anifeiliaid gwyllt.

Cwestiynau Cyffredin

Pam mae'r borfa mor hir?

Caiff y borfa ei thorri yn ôl amserlen ac felly fe all dyfu'n eithaf hir os oes amodau ffafriol rhwng toriadau.

Pryd fydd y torri'n dechrau?

Mae'r tymor torri porfa yn para rhwng mis Ebrill a mis Medi.

Ydych chi'n casglu'r borfa?

Yn anffodus, nid oes gan yr awdurdod lleol yr adnoddau i gasglu'r toriadau porfa o bob ymyl borfa sydd ym mherchenogaeth y Cyngor.

Beth ddylwn i ei wneud os yw hyd y borfa ar ymyl y ffordd yn achosi perygl?

Rhowch wybod i ni trwy gysylltu â'r Tîm Strydlun ar 01495 762200.

Pam nad yw rhai ardaloedd o borfa ar ymylon ffyrdd a mannau agored yn cael eu torri, ond caiff gweddill y borfa ei thorri?

Ni fydd ardaloedd o borfa lle y plannwyd bylbiau (e.e. cennin pedr a chrocysau) yn cael eu torri hyd nes bydd y dail wedi dechrau gwywo, sef diwedd Mehefin fel arfer. Mae hyn yn arfer garddio da gan ei fod yn sicrhau y bydd y bylbiau yn blodeuo eto'r flwyddyn nesaf. Yn anffodus, gall yr ardaloedd hyn ordyfu ac ymddangos yn anniben ar ddechrau'r haf. Pan fydd yr ardaloedd hyn wedi'u torri, cânt eu cynnal fel gweddill y borfa nes bod y bylbiau'n dechrau tyfu eto'r flwyddyn ganlynol.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/01/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Strydlun

Ffôn: 01495 762200

E-bost: streetscene@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig