Sbwriel a baw ci
Cadwch Dorfaen yn Daclus
Mae gan y cyngor rym i roi dirwyon o £100 yn y fan a’r lle i unrhyw un sy’n cael eu dal yn gollwng sbwriel. Mae hyn yn cynnwys sigarennau a phethau fel gweddillion afal a chroen banana. Gall rhai pethau gymryd cannoedd o flynyddoedd i ddadelfennu.
Gall unrhyw un sy’n cael eu dal yn peidio â glanhau baw eu ci hefyd gael dirwy o £100 yn y fan a’r lle.
Gallwch ddweud ar broblem sbwriel neu ddweud am faw ci ar-lein.
Gallwch ddweud hefyd trwy ap Cyngor Torfaen neu drwy ffonio 01495 762200.
Beth mae’r cyngor yn ei wneud?
- Gwagio 700 o finiau sbwriel pob wythnos
- Glanhau canolfannau siopa'r cylch pob dydd
- Glanhau pob stryd unwaith pob pythefnos
- Parthau Di-Sbwriel – mae ein Swyddog Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon yn gweithio gyda busnesau i greu Parthau Di-Sbwriel. Mae hyn yn golygu bod y sefydliadau yma’n cymryd cyfrifoldeb i godi sbwriel yn rheolaidd a glanhau darn o dir. Mae yna 3 Parth Di-Sbwriel yn Nhorfaen ar hyn o bryd. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’n swyddog atal sbwriel a thipio anghyfreithlon, Oliver James, ar oliver.james@torfaen.gov.uk
- Hybiau Codi Sbwriel – Rydym yn gweithio gyda Chadwch Gymru’n Daclus a chanolfannau cymunedol a busnesau lleol i ddarparu Hybiau Codi Sbwriel. Gallwch gael a defnyddio offer am ddim fel y gallwch chi godi sbwriel yn eich ardal leol. Mae fanylion eich hwb lleol isod. Edrychwch ar wefannau hybiau neu eu tudalennau Facebook am amserau agor.
- Blaenavon Heritage VC Primary School
- Circulate Furniture Recycling, Blaenafon
- Partneriaeth Costar, Y Ddôl Werdd
- Cyngor Cymuned Cwmbrân, Ventnor Road, Cwmbrân
- Partneriaeth Garnsychan, Abersychan
- Canolfan Ymwelwyr a Gweithgareddau Llyn Llandegfedd
- Marchnad Pont-y-pŵl, Pont-y-pŵl
- Canolfan Gymunedol Bryn Eithin, Cwmbrân
- Sero Gwastraff Torfaen, Pentre Isaf
Beth allwch chi wneud?
Diwygiwyd Diwethaf: 09/05/2024
Nôl i’r Brig