Hysbysiadau Cosb Benodedig - Sut i apelio neu gwyno

Bwriad Hysbysiadau Cosb Benodedig yw rhoi cyfle i droseddwr ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am gael ei euogfarnu o'r drosedd honno – hynny yw, trwy gyfaddef i'r drosedd a thalu'r ddirwy, gall troseddwr osgoi cael ei erlyn am y drosedd honno.

Nid oes proses apelio ffurfiol ar gyfer Hysbysiadau Cosb Benodedig – os ydych yn anghytuno eich bod wedi cyflawni trosedd, gallwch benderfynu peidio â thalu dirwy'r Gosb Benodedig ac yna bydd Llys yn penderfynu ynghylch y mater. Fodd bynnag, gall hyn fod yn ddrud i'r ddwy ochr a gall gymryd tipyn o amser, felly, mae gan Gyngor Torfaen broses apelio fewnol a all helpu i ddatrys anghydfodau cyn iddynt gyrraedd y Llys.

Pryd gallwch chi apelio yn erbyn Hysbysiad Cosb Benodedig?

Mae achosion lle y gellid rhoi ystyriaeth ffafriol i apêl yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i achosion lle gallwch ddangos y canlynol

  • Ni chyflawnwyd trosedd, neu cyflwynwyd yr hysbysiad cosb benodedig yn anghywir, er enghraifft pan nad oedd gorchymyn rheoli cŵn yn berthnasol neu lle'r oedd gan yr unigolyn eithriad o dan y gyfraith
  • Cyflawnwyd y drosedd gan rywun arall 
  • Nid yr unigolyn y cyflwynwyd yr Hysbysiad iddo oedd ar fai, ac nid oedd unrhyw beth y gallai fod wedi'i wneud i atal y drosedd
  • Ni ddylem fod wedi cyflwyno'r Hysbysiad gan fod y troseddwr o dan 18 oed, neu oherwydd bod gan yr unigolyn analluogrwydd corfforol neu feddyliol neu analluogrwydd arall a oedd yn ei atal rhag deall ei fod wedi cyflawni trosedd 
  • Ceir amgylchiadau esgusodol sylweddol a oedd wedi effeithio dros dro ar allu'r unigolyn i gydymffurfio â'r gyfraith
  • Nid ystyrir bod yr Hysbysiad wedi'i gyflwyno er budd y cyhoedd ond, cofiwch, mae gennym ddyletswydd i orfodi'r gyfraith ac mae Hysbysiadau Cosb Benodedig wedi'u bwriadu i fod yn ffordd gyflym a hawdd o ddelio â mân droseddau.

Er mwyn cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig, bydd gennym dystiolaeth fod yr unigolyn y cyflwynwyd yr Hysbysiad iddo wedi cyflawni trosedd. Felly, rhaid i unrhyw apêl ddangos yn glir y rhesymau pam y dylid diddymu'r Hysbysiad Cosb Benodedig. Bydd angen i chi roi unrhyw dystiolaeth sydd gennych i ni, fel ffotograffau, tystion ac ati, fel y gallwn ystyried eich apêl yn llawn.

Mae amrywiaeth o resymau dros beidio ag ystyried apêl, ac mae'r rhain yn cynnwys

  • Anwybodaeth o'r gyfraith – y prawf a ddefnyddir yw a fyddai unigolyn rhesymol yn ymwybodol bod trosedd wedi'i chyflawni – mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod bod gollwng sbwriel a gadael i'w cŵn faeddu yn anghywir! Mae rhai gofynion am arddangos hysbysiadu'n rhybuddio pobl am y gyfraith, ond nid yw'r rhain yn berthnasol ym mhob man ac i bob deddfwriaeth, ac nid oes rhaid cael hysbysiadau rhybuddio lle'r ydych chi'n digwydd bod pan gyflawnwyd y drosedd
  • Nid oeddech yn gwybod bod trosedd wedi'i chyflawni – y prawf a ddefnyddir yw a fyddai unigolyn rhesymol yn gwybod beth oedd wedi digwydd – er enghraifft, mae hyn yn cynnwys gwybod lle mae eich ci a beth mae'n ei wneud fel y gallwch lanhau unrhyw faw y mae'n ei adael
  • Nid oeddech yn gallu atal y drosedd – y prawf a ddefnyddir yw a fyddai unigolyn rhesymol wedi gallu cymryd camau i atal y drosedd rhag digwydd – er enghraifft, trwy gadw eich ci o dan reolaeth fel nad yw'n mynd i mewn i ardal waharddedig
  • Dim ond mân drosedd oedd hi – dyna pam gafodd Hysbysiad Cosb Benodedig ei chyflwyno, gan fod hyn yn rhoi cyfle i osgoi mynd i'r Llys. Gellid erlyn troseddau mwy difrifol yn syth
  • Ni fyddai mynd ar drywydd y drosedd o fudd i'r cyhoedd – er mai mân droseddau yw'r rhain, mae lefelau sbwriel, baw cŵn ac ati yn achos pryder i drigolion lleol ac mae angen i Gyngor Torfaen ymateb i'r pryderon hyn trwy wneud yn siwr bod y gyfraith yn cael ei gorfodi. Hefyd, mae'r Awdurdod yn gwario llawr o arian ar lanhau'r strydoedd ac mae unrhyw beth y gallwn ei wneud i atal sbwriel, baw cŵn ac ati, yn ein helpu i wneud hyn yn fwy effeithiol.

Sut rydym ni'n delio ag apeliadau 

Os yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen neu unrhyw un sy'n gweithredu ar ein rhan yn cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig i chi, ond rydych yn anghytuno eich bod wedi cyflawni trosedd neu o'r farn ei bod yn afresymol i ni gyflwyno'r Hysbysiad, gallwch apelio (yn ysgrifenedig) i'r Gweinyddwr Amgylcheddol, Ty Blaen Torfaen, Panteg Way, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl NP4 0LS neu drwy e-bost i fixedpenaltynotices@torfaen.gov.uk

Bydd pob apêl:

  • Yn cael ei hystyried yn ôl ei rhinweddau, ar sail y wybodaeth a'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr apelydd a'r sawl a gyflwynodd yr Hysbysiad
  • Yn cael ymateb ysgrifenedig llawn, o fewn 10 diwrnod gwaith fel arfer. Pan fydd angen cynnal ymchwiliad manylach, byddwn yn cydnabod apeliadau o fewn 5 niwrnod gwaith.

Lle na chaiff apeliadau eu cynnal, byddwn yn rhoi esboniad o'r rhesymau dros hyn a rhoddir cyfnod pellach o 14 diwrnod ar gyfer talu a manylion gweithdrefn gwyno'r Cyngor.

Cwyno 

Weithiau, bydd y rhai sy'n cael Hysbysiad Cosb Benodedig yn cytuno eu bod wedi cyflawni trosedd, ond yn anfodlon â'r ffordd y cawsant eu trin. Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen weithdrefn gwyno i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Cam cyntaf y broses gwyno yw cwyno (yn ysgrifenedig) i'r Gweinyddwr Amgylcheddol, Ty Blaen Torfaen, Panteg Way, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl NP4 0LS neu drwy e-bost i fixedpenaltynotices@torfaen.gov.uk

Bydd pob cwyn:

  • Yn cael ei hymchwilio ar sail y wybodaeth a'r dystiolaeth a roddwyd gan yr apelydd a thrwy gyfweld â'r sawl a gyflwynodd yr Hysbysiad
  • Yn cael ymateb ysgrifenedig llawn, o fewn 10 diwrnod gwaith fel arfer, gyda manylion y Weithdrefn Gwyno Gorfforaethol. Pan fydd angen cynnal ymchwiliad manylach, bydd apeliadau'n cael eu cydnabod o fewn 5 niwrnod gwaith.

Os nad yw hyn yn datrys y gŵyn, mae broses gwyno gorfforaethol ar gael sy'n caniatáu i'r Swyddog Cwynion Corfforaethol gynnal ymchwiliad. Bydd manylion y weithdrefn hon yn cael eu darparu gyda phob ymateb i gŵyn, neu maent i'w gweld yn ardal Cwynion y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 17/09/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Call Torfaen

Ffôn: 01495 354665

Nôl i’r Brig