Trwyddedau Amgylcheddol yr Awdurdod Lleol

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol

Rhoddir Trwyddedau Amgylcheddol i brosesau diwydiannol a allai lygru tir, aer neu ddŵr. Mae'r trwyddedau'n gosod amodau y mae'n rhaid i'r broses ddiwydiannol gydymffurfio â nhw.

Y ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer rheoli allyriadau diwydiannau yw Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 a Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016)

Mae diwydiannau sy'n cael eu rheoleiddio o dan y ddeddfwriaeth yn perthyn i un o dri chategori, yn ôl natur a maint y busnes.

Mae'r categori y mae proses ddiwydiannol yn perthyn iddo yn dibynnu ar natur yr allyriadau sy'n cael eu rheoli a maint y broses.

Categorïau

  • Prosesau Rhan A1 – Sy’n cael eu rheoleiddio gan Gyfoeth Naturiol Cymru
  • Prosesau Rhan A2 – Sy’n cael eu rheoleiddio gan yr awdurdod lleol
  • Prosesau Rhan B – Sy’n cael eu rheoleiddio gan yr awdurdod lleol

Mae trwyddedau A1 ac A2 yn rheoleiddio allyriadau i aer, tir a dŵr ac effeithlonrwydd sŵn ac ynni. Mae trwyddedau Rhan B yn rheoleiddio allyriadau i’r aer.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn rheoleiddio 18 o brosesau Rhan B ac 1 proses Rhan A2.

Gellir dod o hyd i fanylion y Trwyddedau Amgylcheddol sy’n cael eu rheoleiddio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar dudalen Cofrestr Gyhoeddus o Drwyddedau Amgylcheddol.

Gellir dod o hyd i geisiadau cyfredol ar dudalen Ceisiadau am Drwyddedau Amgylcheddol

Ceir rhagor o fanylion am y Trwyddedau Amgylcheddol uchod ar dudalen Cofrestr Gyhoeddus o Drwyddedau Amgylcheddol.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Iechyd y Cyhoedd

Ffôn: 01633 647622

E-bost: public.health@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig