Y Gwaharddiad ar Smygu - Chwa o Awyr Iach!

Ym mis Ebrill 2007, daeth bron pob man cyhoeddus amgaeedig a sylweddol amgaeedig, a phob gweithle a cherbyd gwaith yng Nghymru yn fannau di-fwg wrth i reoliadau newydd ddod i rym er mwyn helpu i amddiffyn iechyd y cyhoedd. Bwriad hyn oedd sicrhau amgylchedd iachach i bawb weithio ac ymlacio ynddo, yn rhydd rhag peryglon mwg ail-law.

Mae Rheoliadau Mangreoedd etc Di-fwg (Cymru) 2007 yn gwahardd smygu mewn mannau cyhoeddus amgaeedig, gweithleoedd a cherbydau gwaith. Mae methu ag arddangos arwyddion Dim Smygu yn drosedd hefyd.

Mae'r gwaharddiad ar smygu yn berthnasol i unrhyw beth y gellir ei smygu. Felly, byddai hyn yn cynnwys sigaréts, pibau (gan gynnwys pibau shisha a hookah), sigarau a sigaréts llysieuol.

Yn ei hanfod, mae'r gwaharddiad yn berthnasol i unrhyw fangreoedd sydd â tho ac y mae dros 50% o'r ochrau wedi'u hamgáu gan waliau – felly, gallai hynny gynnwys llwybrau cerdded gorchuddiedig mewn canolfannau siopau ac ati, yn ogystal â siopau, tafarndai a gweithleoedd ac yn y blaen. Mae'r gwaharddiad hefyd yn berthnasol i gerbydau gwaith, gan gynnwys tacsis.

Nid oes gofyniad cyfreithiol i ddarparu cysgodfeydd smygu, ond os cânt eu darparu:

  • Rhaid i'r gofod a gwmpesir gan y to y lloches ond yn cael ei amgáu gan 50% neu lai o arwynebedd wal.
  • Bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw fath o lloches ysmygu parhaol, ac efallai y bydd angen cymeradwyaeth gan y Tîm Trwyddedu hefyd ar gyfer unrhyw eiddo trwyddedig

Pam cyflwynwyd y Gwaharddiad ar Smygu?

Os daw unigolyn nad yw'n smygu i gysylltiad â mwg ail-law, gallai ei risg o gael canser yr ysgyfaint gynyddu 24% a gallai ei risg o gael clefyd y galon gynyddu 25%. Hefyd, mae'n gysylltiedig â llawer o anhwylderau meddygol eraill fel clefyd anadlol a mathau eraill o ganser. Nid oes lefel ddiogel o ddod i gysylltiad â mwg ail-law.

Mwg ail-law yw mwg tybaco o sigaréts a sigarau pobl eraill ac mae'n cynnwys dros 4,000 o gemegau ar ffurf gronynnau a nwyon - mae rhai o'r cemegau hyn yn wenwynau peryglus. Mae amlygiad o ddim ond tri deg munud yn ddigon i leihau llif y gwaed i'r galon.

Gorfodi'r Gwaharddiad ar Smygu

Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am orfodi'r gwaharddiad ac mae amrywiaeth o bwerau ar gael iddynt i sicrhau bod y gwaharddiad ar smygu yn effeithiol. Mae'r troseddau a allai arwain at gamau gorfodi yn cynnwys:

  • Smygu mewn man di-fwg
  • Methu ag arddangos yr arwyddion dim smygu gofynnol
  • Methu ag atal smygu mewn man di-fwg.

Mae peidio â chydymffurfio â'r gyfraith di-fwg yn drosedd. Gall Hysbysiadau Cosb Benodedig gael eu cyflwyno ar gyfer rhai troseddau a gallai achosion mwy difrifol arwain at erlyniad.

  • Dyma'r cosbau penodedig:
    • methu ag arddangos arwyddion cywir - swm y gosb benodedig fydd £200 (wedi'i ostwng i £150 os caiff ei dalu o fewn y cyfnod talu a nodir). 
    • smygu mewn mangreoedd di-fwg - swm y gosb benodedig fydd £50 (wedi'i ostwng i £30 os caiff ei dalu o fewn y cyfnod talu a nodir).
  • Dyma uchafswm y dirwyon yn achos erlyniad:
    • Methu ag arddangos yr arwyddion dim smygu cywir (uchafswm o £1000) 
    • Smygu mewn man di-fwg (uchafswm o £200)
    • Methu ag atal smygu mewn man di-fwg (uchafswm o £2500)
    • Rhwystro swyddog gorfodi yn fwriadol (uchafswm o £1000)

Sut gallaf i gwyno am achosion o fynd yn groes i'r ddeddfwriaeth?

Os yw rhywun yn smygu mewn mangre dim smygu neu mewn cerbyd gwaith, dylech gwyno yn y lle cyntaf i'r rheolwr neu'r sawl sy'n gyfrifol am y fangre neu'r cerbyd - mae ganddynt ddyletswydd gyfreithiol i atal smygu yn y fangre honno.

Os yw problemau'n parhau, gallwch gysylltu â'r canlynol:

  • Y Tîm Trwyddedu ar 01633 647284 ynghylch pob safle trwyddedig,
  • Y Tîm Iechyd, Diogelwch a Bwyd ar 01633 627621/22 yn achos pob safle arall
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing Team

Ffôn: 01633 647284

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig