Rheoli Llygredd Golau

Mae golau artiffisial yn hanfodol yn ein cymdeithas fodern ac mae pob un ohonom yn ei ddefnyddio ar gyfer llawer o wahanol bethau, gan gynnwys:

  • Goleuo strydoedd a ffyrdd yn y nos
  • Fel mesur i ddiogelu cartrefi a busnesau
  • Cynyddu'r oriau y gallwn gynnal chwaraeon y tu allan

Fodd bynnag, mae'r defnydd cynyddol o oleuo wedi arwain at broblemau. Gall golau yn y man anghywir ar yr adeg anghywir fod yn ymwthiol ac mae'r cwynion am lygredd golau wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diweddar.

Felly beth allwch chi ei wneud i helpu i'w leihau, a beth allwch chi ei wneud os ydych yn profi llygredd golau? 

Beth yw llygredd golau? 

Gellir disgrifio llygredd golau fel golau artiffisial y caniateir iddo oleuo, neu lygru, ardaloedd na fwriadwyd iddynt gael eu goleuo. 

Mae'n cynnwys sawl elfen:

  • Golau'n tresmasu - golau sy'n llifo y tu hwnt i ffin yr eiddo y mae'r golau wedi'i leoli arno, gan ddisgleirio trwy ffenestri a llenni weithiau.
  • Golau tanbaid - disgleirdeb anghyfforddus ffynhonnell golau pan gaiff ei gweld yn erbyn cefndir tywyllach.
  • Gwawl - y golau pinc neu oren y gallwn ei weld o amgylch trefi a dinasoedd sy'n cael ei achosi wrth i olau artiffisial gael ei wasgaru gan lwch a defnynnau dŵr yn yr aer.

Mae ffynonellau llygredd golau yn cynnwys goleuadau diogelwch sy'n goleuo adeiladau a'r ardal o'u hamgylch, llifoleuadau a ddefnyddir i oleuo meysydd chwarae, mannau adloniant, goleuadau stryd, a golau ar gyfer hysbysebion ac arddangosiadau.

Yr Effaith

Gall llygredd golau gael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd pobl. Er enghraifft, fe all amharu ar gwsg pan fydd yn disgleirio i mewn i gartrefi. Fe all hefyd ymyrryd â'n golygfeydd o awyr y nos. 

Ynni gwastraff yw'r llygredd ei hun, ac felly mae'n wastraff o adnoddau ac arian. 

Yn bwysicaf oll, mae llygredd golau yn cael effaith ar ecoleg a bywyd gwyllt ardal, gan effeithio ar batrymau ymddygiad mamaliaid, adar, pryfed a physgod.

Mynd i'r Afael â'r Broblem

Mae'n bosibl lleihau llygredd golau yn sylweddol trwy gymryd nifer o gamau syml a rhad. Gallwch chi gyfrannu hefyd at leihau cwynion ynghylch llygredd golau trwy ofyn i chi'ch hun:

  • A oes angen y golau?
  • A oes dewisiadau eraill yn bosibl, fel codi ffens yn hytrach na gosod golau diogelwch?
  • A yw'r holl oleuadau diangen wedi'u diffodd?
  • A allech chi osod amserydd ar gyfer y golau? A yw'r golau'n achosi niwsans i bobl eraill?

Gwnewch yn siwr nad yw eich goleuadau'n wastraffus

Defnyddiwch lampau sydd â'r watedd lleiaf posibl. Mae lamp 150W yn ddigonol ar gyfer goleuadau diogelwch domestig. Mae lampau pŵer uchel (300/500W) yn rhy danbaid ac felly'n lleihau diogelwch.

Mae lamp 9W yn ddigonol i oleuo portsh trwy'r nos yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd.

Gosodwch eich goleuadau ar ongl am i lawr, fel eu bod yn goleuo'r arwyneb y bwriadwyd iddynt ei oleuo yn unig ac nad yw'r golau'n llifo i eiddo cyfagos. Dylai prif ongl baladr pob math o oleuadau fod islaw 70 gradd, er mwyn lleihau effeithiau tanbeidrwydd. 

Dylai goleuadau diogelwch gael eu haddasu'n gywir fel eu bod yn synhwyro symudiadau gan bobl yn y man a fwriadwyd, a dim pellach. 

Dylech gyfeirio goleuadau am i lawr. Os bwriedir defnyddio goleuadau am i fyny, dylech osod cwflau neu orchuddion uwchben y golau er mwyn lleihau faint o olau sy'n cael ei wastraffu i fyny. Peidiwch â gosod offer sy'n lledaenu golau uwchben lefel lorweddol.

Datblygiadau Newydd

Yr adeg orau i ymdrin â llygredd golau yw yn ystod cam cynllunio datblygiadau newydd. Dyma'r adeg berffaith i ddylanwadu ar ddyluniad neu osodiad cynlluniau golau. 

Fodd bynnag, dim ond datblygiadau sy'n cynnwys gwaith peirianneg adeiladu neu sy'n gwneud newidiadau sylweddol i dir neu adeiladau presennol sydd angen caniatâd cynllunio.

Os oes gennych bryderon am gynigion a allai gyfrannu at lygredd golau, cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Cynllunio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar 01633 647324.

Beth allaf i ei wneud?

Mynd i'r afael â'r ffynhonnell

Os ydych chi'n profi llygredd golau o'ch cymdogion, ceisiwch siarad â nhw ac awgrymu'r camau posibl canlynol i wella'r sefyllfa:

  • Addasu ongl y golau neu ei gysgodi'n rhannol.
  • Gosod synhwyrydd is-goch goddefol.
  • Defnyddio bwlb pŵer is.

Fe allai helpu os gallwch ddangos i'ch cymdogion effaith y golau o'ch ochr chi o'r ffens. Gallech hefyd awgrymu y gallent fod yn gwastraffu arian ar oleuo gormodol.

Cysylltu â'r Cyngor

Er 1 Ebrill 2006, mae llygredd golau wedi'i gynnwys yn y diffiniad o 'niwsans statudol'. Caiff hyn ei ddiffinio fel "golau artiffisial sy'n dod o safle ac sy'n niweidiol i iechyd neu sy'n achosi niwsans". 

Mae'n cynrychioli niwsans statudol dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (darpariaeth a ychwanegwyd gan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005). 

Mae'r golau a gynhyrchir mewn amrywiaeth o fathau o safleoedd wedi'i eithrio o'r ddeddf newydd hon. Mae'r rhain fel a ganlyn: meysydd awyr/harbwr/rheilffordd/tramffordd/safle bysiau ac unrhyw gyfleusterau cysylltiedig, canolfannau gweithredu cerbydau gwasanaeth cyhoeddus, canolfannau gweithredu cerbydau nwyddau, goleudai a charchardai. 

Yn ogystal, bydd amddiffyniad statudol o ran 'y dull ymarferol gorau' ar gael ar gyfer:

  • Golau artiffisial sy'n dod o safleoedd diwydiannol, masnach neu fusnes.
  • Golau artiffisial sy'n dod o oleuadau a ddefnyddir dim ond ar gyfer goleuo cyfleuster chwaraeon perthnasol yn yr awyr agored.

Gallwn ymchwilio i gŵynion am safleoedd preswyl a masnachol. Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnom:

  • Eich enw a'ch cyfeiriad (ni allwn ymdrin â chwynion dienw, ond ni fyddwn yn datgelu eich enw i'r unigolyn rydych yn cwyno amdano heb ofyn i chi yn gyntaf).
  • Y cyfeiriad y mae'r golau'n dod ohono ac enw'r unigolyn sy'n gyfrifol os ydych chi'n gwybod hynny.
  • Sut mae'r golau'n effeithio arnoch chi.
  • Pryd a pha mor aml y mae'n digwydd.

Os hoffech wneud cwyn, cysylltwch â Gorfodi Llygredd ar 01633 647287.

Sut byddwch chi'n ymdrin â'm cwyn?

Yn y lle cyntaf, byddwn yn ysgrifennu at yr unigolyn sy'n achosi'r broblem o ran golau a chynnig cyngor. Yn aml, nid yw pobl yn ymwybodol eu bod yn achosi problem. Fodd bynnag, os bydd y broblem yn parhau byddwn yn gofyn i chi lenwi dyddiadur a'i ddychwelyd i ni. 

Os na fyddwch yn dychwelyd y dalenni dyddiadur i ni, byddwn yn cymryd yn ganiataol bod y llythyr rhybudd wedi datrys eich cwyn ac nad oes angen cymryd unrhyw gamau pellach. 

Pan fydd eich dalenni cofnod wedi'u dychwelyd, bydd swyddog yn cysylltu â chi i drafod yr achos, gan amlinellu'r dull y bydd yn ei ddefnyddio i ymchwilio i'ch cwyn. 

Pa gamau y gallwn ni eu cymryd? 

Bydd y wybodaeth a roddwch ar y dalenni dyddiadur yn helpu'r swyddog achos i asesu'r broblem o ran golau a phenderfynu pa gamau y gellir eu cymryd. 

Gallwn gymryd camau os yw'r llygredd golau yn achosi niwsans yn ôl y gyfraith ("niwsans statudol"). Byddwn yn asesu'r golau i weld a yw'n ddigonol i fod yn niwsans. 

Yna gallwn roi hysbysiad dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 sy'n mynnu bod y llygredd golau yn cael ei atal. 

Camau Preifat

Mae'n bosibl y byddwch yn gallu cymryd camau preifat i fynd i'r afael â niwsans yn ymwneud â phroblem golau, os gallwch ddangos i lys eich bod yn cael eich aflonyddu'n afresymol. 

Gellir disgrifio niwsans fel 'ymyrraeth sylweddol ar ddefnydd a mwynhad unigolyn o'i eiddo’. 

Os hoffech ddilyn y llwybr hwn, dylech gysylltu â'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu gyfreithiwr i gael gwybod pa gamau a allai fod yn briodol i ymdrin â'ch cwyn.

Diwygiwyd Diwethaf: 11/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gorfodi Llygredd

Ffôn: 01633 647287

Ebost: public.health@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig