Cyflenwad Dŵr Preifat

Beth yw Cyflenwad Dŵr Preifat?

Yn gyffredinol, Cyflenwad Dŵr Preifat yw unrhyw gyflenwad dŵr nad yw'n cael ei ddarparu gan gwmni dŵr, fel Dŵr Cymru. Nid yw'n rhan o'r prif gyflenwad, ac felly ystyrir ei fod yn breifat. Ni thelir trethi dŵr ar gyfer y cyflenwadau hyn, er y gallai'r unigolyn sy'n berchen ar gyflenwad godi tâl. Yn nodweddiadol, mae cyflenwad dŵr preifat yn tarddu o un o'r ffynonellau canlynol:

  • Ffynhonnau
  • Dyfrdyllau
  • Nentydd
  • Tarddellau
  • Afonydd
  • Llynnoedd neu Byllau ac ati

Fel y cyfryw, mae cyflenwadau dŵr preifat yn bodoli yn ardaloedd mwy gwledig Torfaen yn gyffredinol. Amcangyfrifir bod gan oddeutu 1% o'r boblogaeth yng Nghymru a Lloegr gyflenwad dŵr preifat i'w cartrefi (yr Arolygiaeth Dŵr Yfed, 2010). Yn ôl y Gofrestr ddiweddaraf yn Nhorfaen mae gan 76 eiddo Gyflenwadau Dŵr Preifat ar hyn o bryd.

Gallai cyflenwad dŵr preifat wasanaethu un annedd yn unig, fe allai gael ei rannu ymhlith sawl eiddo neu fe allai fod yn gyflenwad mawr neu fasnachol sydd â rhwydwaith o bibellau yn cyflenwi dŵr i sawl eiddo. Mae hefyd yn cynnwys cyflenwad a ddarperir at ddiben potelu dŵr.

Problemau Cyffredin gyda Chyflenwadau Preifat

Yn aml, mae cyflenwadau dŵr preifat wedi'u llygru gyda bacteria a adwaenir fel colifformau. Mae bacteria colifform yn bodoli'n gyffredin yn yr amgylchedd (e.e. mewn pridd, llystyfiant a dŵr). Nid yw eu presenoldeb mewn dŵr ynddo'i hun yn cynrychioli risg i iechyd. Gallant atgynhyrchu a thyfu ar arwynebau yn y cartref fel y mewnosodiadau plastig a geir ar big tapiau.

Mae E.coli (Escherichia coli) yn golifform sy'n bodoli mewn niferoedd mawr yn llwybr coluddol pob anifail gwaed cynnes. Gall rhai rhywogaethau o E.coli achosi salwch. Mae presenoldeb E.coli mewn dŵr yfed bron bob amser yn arwydd o halogiad ymgarthol diweddar, sy'n golygu y gallai germau niweidiol fod yn bresennol hefyd.

Gall y tir y mae ffynhonnell eich cyflenwad wedi'i lleoli arno achosi i'r dŵr gasglu metelau sy'n digwydd yn naturiol hefyd. Er enghraifft, gall dŵr asidig o weundir mawn gasglu alwminiwm a manganîs. Gall dŵr asidig gyrydu pibellau copr a phlwm hefyd.

Gallai dŵr gael ei lygru gan arferion amaethyddol arferol fel taenu llaid fferm, neu wrth i wrteithiau redeg oddi ar y tir neu drylifo trwy'r pridd i'r dŵr. Gall llygredd gael ei achosi gan danciau septig, pentyrrau tail a draeniau, yn ogystal â chan anifeiliaid sy'n cael at y cyflenwad.

Ffïoedd a Thaliadau ar gyfer Cyflenwadau Dŵr Preifat

Dyma'r ffioedd a'r taliadau cyfredol ar gyfer yr asesiad risg, samplu, ymchwilio a dadansoddi cyflenwadau dŵr preifat yn Nhorfaen. Mae'r holl ffioedd yn amodol ar DAW lle bo'n briodol. Mae taliadau am amser swyddogion yn seiliedig ar gyfradd fesul awr sy'n berthnasol ar adeg y gwaith sy'n cael ei wneud. Gellir trefnu bod dadansoddiad o'r taliadau hyn ar gael ar gais.

Dŵr Preifat
Asesiad RisgFfi Uchaf (£)

Cyflenwadau Rheoliad 9 (Masnachol)

700

Cyflenwadau Rheoliad 10 (Eiddo sengl)

300

Cyflenwadau Rheoliad 9 (eiddo a rennir – domestig neu â thenantiaid)

300

Dŵr Preifat
SampluFfi Uchaf (£)

Samplu (am bob ymweliad yn seiliedig ar amser swyddog a heb gynnwys unrhyw gostau dadansoddi a amlinellir isod)

100

Dŵr Preifat
ArchwilioFfi Uchaf (£)

Archwiliad (pob archwiliad)

250

Dŵr Preifat
CaniatâdFfi Uchaf (£) 

Rhoi caniatâd (pob caniatâd)

100

Dŵr Preifat
Dadansoddi sampl (costau prawf labordy)Ffi Uchaf (£) 

Cyflenwadau Rheoliad 10 neu 11

25

Wedi'i gymryd wrth fonitro ar gyfer paramedrau Grŵp A

110

Wedi'i gymryd wrth fonitro ar gyfer paramedrau Grŵp B

600

Dŵr Preifat
Cofrestr Cyflenwad Dwr PreifatFfi Uchaf (£) 

Copi o un cofnod

23

Copi o’r gofrestr gyfan

46

Safonau Ansawdd ar gyfer Dŵr

Mae dŵr yfed diogel yn hanfodol i iechyd da, ac felly mae'n rhaid i gyflenwadau dŵr preifat gael eu diogelu a'u trin yn briodol er mwyn atal halogiad gan:

  • Ficro-organebau
  • Cemegion neu
  • Sylweddau eraill fel plwm

Yn wir, mae dŵr mewn perygl o gael ei halogi gan bopeth y mae'n dod i gysylltiad ag ef. Mae'n rhaid i bob tŷ gael cyflenwad da o ddŵr glân, iach a ffres er mwyn iddo fod yn addas i bobl fyw ynddo.

Beth yw Cyfrifoldebau'r Cyngor?

Mae'r Tîm Gwasanaethau Masnachol yn gyfrifol am fonitro pob cyflenwad ac mae'n rhaid iddynt gadw cofnodion o bob cyflenwad dŵr preifat yn Nhorfaen yn unol â Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017. Ymhlith pethau eraill, mae'r rheoliadau hyn yn mynnu bod y Cyngor yn cynnal asesiad risg o unrhyw gyflenwad mawr neu fasnachol neu unrhyw gyflenwad a rennir. Mae'r rheoliadau hefyd yn nodi pa mor aml y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol gymryd sampl o ddŵr o gyflenwad preifat, pa brofion y mae'n rhaid eu cynnal ar y sampl a faint o dâl i'w godi am brofi'r dŵr. 

Gallai'r Cyngor hefyd fonitro cyflenwadau dŵr preifat sy'n gwasanaethu un annedd ddomestig, ac mae'n rhaid iddo gymryd sampl ar gais gan berchennog neu feddiannwr yr annedd. 

Bydd taliadau'n berthnasol ar gyfer asesiadau risg, samplu, ymchwilio a dadansoddi cyflenwadau a rennir a chyflenwadau masnachol. Bydd taliadau'n berthnasol hefyd ar gyfer ceisiadau am samplu gan berchennog neu feddiannwr, ond mae'n annhebygol y codir tâl am fonitro anheddau domestig unigol fel mater o drefn. 

Beth os wyf yn pryderu am ansawdd fy nŵr?

Gall Tîm Gwasanaethau Masnachol Cyngor Torfaen argymell ffyrdd o wella ansawdd eich cyflenwad dŵr a'i atal rhag cael ei lygru.

Os ydych yn pryderu am ansawdd y dŵr a gyflenwir i'ch eiddo o gyflenwad dŵr preifat, gallwch ofyn i'r Gwasanaethau Masnachol brofi sampl o'r dŵr. Sylwer y gallai Cyngor Torfaen godi tâl arnoch am y gwasanaeth hwn. Hyd yn oed os oes problem gydag ansawdd eich cyflenwad, mae amrywiaeth o ddulliau triniaeth ar gael i ymdrin â'r rhan fwyaf o amgylchiadau.

Gwybodaeth Bellach

I gael mwy o wybodaeth am Gyflenwadau Dŵr Preifat, cysylltwch â Tîm Gwasanaethau Masnachol ar 01633 648009.

Dolenni Defnyddiol

Gwefan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed

Gallwch weld Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 a Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017 ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus

Gwefan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr.

I gael gwybodaeth am ansawdd dŵr yfed o’r prif gyflenwad ewch i wefan Dŵr Cymru.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/05/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Gwasanaethau Masnachol

Ffôn: 01633 648009

E-bost: commercial.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig