Sŵn sy'n peri Niwsans

Rydym ni i gyd yn gwneud sŵn, mae'n ffaith, wrth wneud pethau fel siarad ag eraill, chwarae cerddoriaeth, gyrru ein ceir neu gyflawni ein busnes pob dydd.

Gallai'r hyn sy'n sŵn i un person fod yn bleserus i rywun arall. Gall sŵn gormodol gael effaith negyddol ar ansawdd bywyd ac, mewn rhai achosion eithafol, ei ddinistrio'n gyfan gwbl.

Mae'r Cyngor yn gallu ymchwilio i gŵynion am niwsans sŵn, cynghori ar ddulliau o leihau sŵn yn ei darddbwynt a chymryd camau cyfreithiol i leihau sŵn.

Camau i Leihau Niwsans Sŵn

  • Ceisiwch wneud gwaith crefft cartref swnllyd yn ystod y dydd.
  • Ymddiheurwch ymlaen llaw am wneud unrhyw waith crefft cartref swnllyd.
  • Rhybuddiwch eich cymdogion os ydych yn mynd i gael parti. Mae hwn yn gam syml a bydd yn annog goddefgarwch.
  • Ceisiwch osgoi gadael anifeiliaid anwes swnllyd gartref os yw'n bosibl - gall ci sy'n cyfarth yn barhaus aflonyddu cymdogion a chreu trafferth i'w berchennog. Mae'r daflen 'Pam mae eich ci yn cyfarth a beth y gallwch ei wneud ynghylch hynny' ar gael i'w lawrlwytho yma.
  • Os ydych chi'n cadw ieir, gofynnwch i chi'ch hun, a oes angen ceiliog arnaf mewn gwirionedd gan nad yw'n angenrheidiol er mwyn i ieir ddodwy. Mae'r daflen Sŵn o Geiliogod yn Clochdar yn rhoi cyngor ymarferol.

Cwestiynau Cyffredin

Pa mor uchel y caf i chwarae cerddoriaeth? 

Nid oes lefel benodol. Mae'n dibynnu ar ba un a yw'n debygol y bydd y sŵn yn tarfu ar rywun arall. Yn gyffredinol, os ydych chi'n cau'r drws i'r ystafell lle mae'r gerddoriaeth yn chwarae ac rydych yn dal i allu clywed y gerddoriaeth yn yr ystafelloedd cyfagos, yna mae'n debygol y bydd eich cymydog yn gallu ei chlywed hefyd. 

A oes amseroedd penodol pryd y caf chwarae cerddoriaeth? 

Nid oes amseroedd penodol. Mae'n dibynnu ar ba un a ydych chi'n achosi niwsans. Mae pobl yn fwy tebygol o oddef sŵn yn ystod y dydd nag yn ystod y nos. 

Sŵn o waith adeiladu a chrefft cartref - oriau gwaith 

Fel arfer, dylai gwaith adeiladu swnllyd gan fasnachwyr/adeiladwyr gael ei wneud yn ystod yr oriau canlynol gan ddefnyddio'r dechneg orau sydd ar gael (yr offer priodol i'r gwaith): dydd Llun i ddydd Gwener 08:00 tan 18:00, dydd Sadwrn 08:00 tan 13:00, ac nid ar unrhyw adeg ar ddydd Sul a Gwyliau Banc. Nid yw gwaith crefft cartref wedi'i gyfyngu i'r oriau hyn a chaiff pob achos ei bwyso a'i fesur yn unigol, gan ystyried amlder y gwaith, y math o waith, a pha mor gynnar/hwyr y mae'r gwaith yn cael ei wneud. 

Larymau Tresmaswyr sy'n Canu ar Gam 

Mae gan y Tîm Iechyd y Cyhoedd y pŵer i ddatgysylltu larymau os ydynt yn canu ar gam yn aml, ac i gael gwarant lle bo'r angen i fynd i mewn i safle neu drefnu bod cerbydau'n cael eu symud ymaith - bydd y bil ar gyfer hyn yn cael ei roi i'r perchennog. 

Beth gellir ei wneud am wyntyllau, echdynwyr ac offer mecanyddol swnllyd? 

Mae offer mecanyddol mewn safleoedd masnachol neu ddiwydiannol yn aml wedi'u lleoli ger safleoedd preswyl. Wrth asesu pa un a yw sŵn o offer mecanyddol yn achosi niwsans, bydd yr Is-adran Iechyd y Cyhoedd yn cyfeirio at Safon Brydeinig, gan ystyried unrhyw elfennau ymwthiol a thonaidd. Cysylltwch â ni i gael mwy o gyngor.

Beth gellir ei wneud am sŵn arferol gan gymdogion? 

Ni ellir defnyddio'r gyfraith ar niwsans sŵn i ddatrys rhai problemau yn ymwneud â sŵn. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Sŵn sy'n cael ei achosi gan unigolyn na ellir ei ddal yn gyfrifol yn droseddol am ei weithredoedd, e.e. plant ifanc neu bobl â salwch meddwl;
  • Sŵn sy'n codi yn sgil defnydd domestig arferol, e.e. defnyddio sugnwr llwch yn ystod y dydd neu fflysio'r tŷ bach, oni bai bod y sŵn yn arbennig o anghyffredin neu afresymol;
  • Sŵn domestig arferol sy'n codi oherwydd diffyg inswleiddio digonol rhag sŵn

Gall yr Is-adran Iechyd y Cyhoedd ddarparu gwybodaeth am sut i wella inswleiddio rhag sŵn yn eich safle ac, mewn rhai achosion, gall atgyfeirio eich achos ar gyfer cyfryngu. Mae'n bosibl mai cyfryngu fydd y ffordd fwyaf effeithiol o ddatrys problemau rhwng cymdogion.

Beth gall y Cyngor ei wneud am sŵn tân gwyllt? 

Mae Rheoliadau Tân Gwyllt 2004 yn cael eu gorfodi gan yr Heddlu. Mae'r rheoliadau hyn yn gwahardd unrhyw un o dan 18 oed rhag meddu ar dân gwyllt mewn man cyhoeddus, ac yn gwahardd unrhyw un heblaw am weithwyr proffesiynol rhag meddu ar dân gwyllt ar gyfer arddangosfa. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn gwahardd defnyddio tân gwyllt yn y nos (11pm - 7am), ond ceir estyniadau ar gyfer y gwyliau canlynol:

  • Tan 1.00am ar noson y Flwyddyn Newydd Dsieineaidd
  • Tan 1.00am ar noson Diwali
  • Tan 1.00am ar Nos Galan
  • Tan ganol nos ar 5 Tachwedd

Mae gwybodaeth bellach ar gael ar dudalen y Gyfraith o ran Tân Gwyllt.

Pwy ddylwn i gysylltu ag ef?

Dylech gysylltu â'r Tîm Iechyd y Cyhoedd os oes unrhyw un o'r canlynol yn effeithio arnoch:

  • Cerddoriaeth sydd mor uchel fel ei bod yn eich atal chi neu aelodau o'ch teulu rhag cysgu
  • Safleoedd adeiladu sy'n gwneud sŵn y tu allan i'r oriau derbyniol. Yr oriau gwaith arferol ar gyfer contractwyr adeiladu yw 8:00 tan 18.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener ac 8:00 tan 13:00 ar ddydd Sadwrn. Gallai contractwyr sy'n gweithio y tu allan i'r oriau hyn fod yn agored i gael eu herlyn
  • Larymau tresmaswyr a larymau ceir sy'n canu'n barhaus heb fod eu switsh diffodd yn gweithio neu heb fod y system yn cael ei diffodd
  • Gwaith crefft cartref yn ystod oriau afresymol
  • Sŵn parhaus gan anifeiliaid, fel cŵn yn cyfarth

Nid yw'r rhestr hon yn gyflawn, ac os ydych yn dioddef problem sŵn arall, dylech gysylltu â'r Is-adran Iechyd y Cyhoedd i drafod y mater. 

Gallwn gymryd camau cyfreithiol ar eich rhan os ydym yn fodlon bod 'niwsans statudol' yn digwydd, neu ei fod yn debygol o ddigwydd neu ailddigwydd. Bydd hyn yn arwain at roi hysbysiad gorfodi. Os yw'r unigolyn sy'n gyfrifol am y sŵn yn caniatáu iddo barhau ar ôl i hysbysiad gael ei roi, byddwn yn ystyried erlyn yr unigolyn hwnnw am beidio â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad.

I ddechrau, byddwn yn gofyn i chi lenwi dyddiadur sŵn am 2 wythnos, gan gofnodi'r holl ddigwyddiadau a darfodd arnoch yn eich barn chi, gan nodi'r dyddiadau a'r amseroedd a disgrifio sut oedd y sŵn wedi amharu ar eich bywyd. Gellir lawrlwytho Ffurflen Cofnodi Cwyn am Sŵn yma. 

Os yw eich cwyn yn ymwneud â chymydog ac rydych chi'n denant i'r Cyngor, dylech gysylltu â'ch Swyddfa Dai Ardal Leol. 

Os na allwn helpu 

Os na allwn gymryd camau ar eich rhan fe allai hynny fod oherwydd nad ydym yn gallu tystio'r sŵn. Yn yr achos hwn, gallwch gymryd eich camau cyfreithiol eich hun trwy gwyno i'r Llys Ynadon dan Adran 82 Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Nid oes rhaid i chi gyflogi cyfreithiwr a byddwn yn gallu rhoi canllawiau ysgrifenedig i chi ar y weithdrefn hon. 

Yr hyn na allwn weithredu yn ei gylch 

Ni all yr Adran Iechyd y Cyhoedd wneud unrhyw beth am dân gwyllt, drysau'n bangio, anghydfodau domestig, iaith fudr, plant yn chwarae na sŵn ysbeidiol gan bobl sy'n rhedeg i fyny'r grisiau ac ati. Dyma faes amwys iawn ynghylch faint o sŵn sy'n dderbyniol ai peidio, ac oherwydd hyn yn bennaf, mae llawer o broblemau'n codi. Cofiwch nad yw'r un cartref yn gwbl wrthsain; gall pawb ddisgwyl rhywfaint o sŵn gan gymdogion.

Nid ydym yn medru ymchwilio i unrhyw gwynion dienw sy’n gysylltiedig â sŵn.

Dolenni Defnyddiol

Dyma rai dolenni cysylltiedig a allai fod yn ddefnyddiol i chi

noiseactionweek.org.uk
I gael y newyddion diweddaraf ac adnoddau am yr Wythnos Gweithredu ar Sŵn 

Diogelu Amgylchedd y DU
Diogelu Amgylchedd y DU yw'r unig grŵp amlddisgyblaethol annibynnol sy'n gweithio ar sŵn ar hyn o bryd. Mae pwyllgor arbenigol y grŵp yn gweithio ar bolisi sŵn a materion gorfodi ar yr un pryd â chydlynu'r Diwrnod Gweithredu ar Sŵn a chyhoeddi gwybodaeth i'r cyhoedd a deunydd addysgol ar faterion yn ymwneud â sŵn. 

Cymdeithas Tinitws Prydain
Diffinnir tinitws fel clywed synau yn y pen a/neu'r clustiau heb ffynhonnell allanol. Gall Cymdeithas Tinitws Prydain roi gwybodaeth a chyngor am ddim ar bob agwedd ar dinitws. 

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar
Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar yn darparu gwybodaeth a chymorth gyda materion yn ymwneud â byddardod. Maent hefyd yn rhoi cyngor ar amddiffyn eich clyw rhag sŵn. 

Noise Pollution Clearing House
Sefydliad di-elw yw'r Noise Pollution Clearinghouse sydd ag adnoddau helaeth ar-lein yn ymwneud â sŵn.

Diwygiwyd Diwethaf: 11/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Public Health

Ffôn: 01633  647622

Ebost: public.health@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig