Achredu Clybiau

Pam Achredu?

Os ydych chi'n dechrau clwb/grŵp newydd neu'n datblygu un sydd eisoes yn bodoli, dylech ystyried cael eich achredu gan eich Corff Llywodraethu Cenedlaethol neu'ch awdurdod lleol.

Mae cael achrediad yn dangos bod y clwb wedi mynd i'r afael â materion fel cydraddoldeb ac amddiffyn plant, gan roi hyder i rieni sy'n dewis clwb i'w plant.

Mae Tîm Datblygu Chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi cyflwyno cynllun achredu sy'n cydnabod grwpiau/clybiau diogel/o ansawdd da.

Fel rhan o'r rhaglen achredu, bydd clybiau/grwpiau yn cael eu hannog i sefydlu "cysylltiad ysgol a chlwb", a byddant yn cael cymorth gan y Tîm Datblygu Chwaraeon i wneud hyn.

Mae'r cynllun achredu yn gweithio ar draws pob math o chwaraeon a grwpiau cymunedol. Bydd clybiau a grwpiau yn gymwys ar gyfer yr achrediad cyn belled ag y bo'r meini prawf llym yn y meysydd canlynol wedi derbyn sylw:

  • Amddiffyn aelodau
  • Cysylltiadau â gwirfoddolwyr, staff a'r rhaglen
  • Rheoli'r clwb

Os hoffech gofrestru eich clwb/grŵp ar y cynllun achredu, cysylltwch â'r Swyddog Datblygu Clybiau ar 01633 628965.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Datblygu Chwaraeon

Ffôn: 01633 628965

E-bost: holly.hinchey@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig