Campau'r Ddraig

Dragon Sports FamilyMenter gan Chwaraeon Cymru a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yw Campau'r Ddraig, a gynlluniwyd i gynnig cyfleoedd chwaraeon difyr a llawn hwyl i blant 7-11 oed.

Gan weithio'n agos gydag ysgolion a chlybiau chwaraeon cymunedol, mae Campau'r Ddraig yn cael effaith drawiadol ar gyfranogiad mewn chwaraeon trwy annog plant i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon wedi'u trefnu.

Diben y cynllun yw ehangu diddordebau plant sydd eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon, a chynnwys plant nad oes cyfleoedd o'r fath ar gael iddynt ar hyn o bryd y tu allan i'w gwersi addysg gorfforol.

Mae Campau'r Ddraig yn cyflwyno plant i hyfforddiant chwaraeon, datblygu sgiliau a chystadleuaeth briodol gan ddefnyddio fersiynau o'r gemau i oedolion, wedi'u haddasu i fodloni eu hanghenion a'u lefelau sgiliau.

Defnyddir portfolio o wyth camp wedi'u haddasu yn y cynllun, sef rygbi, athletau, criced, pêl-droed, hoci, pêl-rwyd, tennis a golff.

Er mai prif bwyslais Campau'r Ddraig yw gwella'r ddarpariaeth chwaraeon i blant 7-11 oed ledled Cymru, mae hefyd yn ceisio recriwtio rhieni a gwirfoddolwyr eraill fel cynorthwywyr i gefnogi datblygiad clybiau chwaraeon cymunedol ac ar ôl ysgol.

Mae croeso i chi gysylltu â Swyddog Campau'r Ddraig ar 01633 628962 os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr/hyfforddwr neu os hoffech gael mwy o wybodaeth am ba weithgareddau sydd ar gael yn agos i chi.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Datblygu Chwaraeon

Ffôn: 01633 628962

Nôl i’r Brig