I Dadau, Gan Dadau

Mae I Dadau, Gan Dadau yn rhaglen gymorth deg wythnos sydd â'r nod o helpu tadau newydd a darpar dadau gyda phlant hyd at 18 mis oed mewn amgylchedd diogel.

Bydd y rhaglen yn cynnwys gweithdai a sgyrsiau wythnosol, yn cwmpasu ystod eang o bynciau i gefnogi tadau ar eu taith magu plant. Mae rhai o'r gweithdai yn cynnwys:

  • Iechyd a lles
  • Diet a maeth
  • Gwybodaeth gan y fydwraig a’r ymwelydd iechyd
  • Seicoleg
  • Gamblo a gemau ar lein

Mae I Dadau, Gan Dadau wedi’i dyfeisio yn dilyn ymchwil gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys Fathers Outreach, Tidy Butt, Seicoleg Gwent, Recoveries 4 All a Sir Casnewydd yn y Gymuned.

Fe wnaethant ddarganfod bod dynion yn elwa o gael lle diogel lle gallant ofyn cwestiynau a dysgu amdanynt eu hunain a'u plant wrth iddynt ddechrau eu taith o fod yn dad. Bydd y grwpiau cymorth yn eu helpu i baratoi ar gyfer y newid yn eu bywyd a ddaw ar ôl cael plentyn.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, bydd y tadau’n cael cyfle i ymgysylltu â grwpiau, clybiau a fforymau cymunedol lleol sy’n addas ar gyfer eu hanghenion.

Neilltuir hyd at 30 o leoedd ar y rhaglen.

I gymryd rhan bydd angen i chi lenwi’r ffurflen archebu yma.

I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 07980682256 neu e-bostiwch jacob.guy@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 03/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Datblygu Chwaraeon

Ffôn: 07980682256

Ebost: jacob.guy@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig