Chwaraeon i'r Anabl

Disability Sport Wales Community Logo

Mae'r Rhaglen Datblygu Cymunedol Genedlaethol Chwaraeon Anabledd Cymru yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Chwaraeon Cymru, Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru a'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Diben y cynllun yw datblygu cyfleoedd chwaraeon a hamdden o ansawdd da yn y gymuned ar gyfer pobl anabl ledled Cymru.

  • Creu clybiau newydd a datblygu clybiau presennol
  • Achredu clybiau/grwpiau
  • Sefydlu rhwydwaith cynaliadwy o wirfoddolwyr
  • Nodi a chefnogi gwirfoddolwyr a hyfforddwyr trwy gyrsiau.

Ceir nifer o gyfleoedd i bobl ag anabledd wirfoddoli/hyfforddi a chymryd rhan yn yr ardal leol. Os oes camp neu weithgaredd yr hoffech roi cynnig arni/arno, os hoffech awgrymu clwb/grŵp chwaraeon anabledd newydd i'w ychwanegu at Raglen Chwaraeon Anabledd Torfaen neu os hoffech gymryd rhan, mae croeso i chi gysylltu â Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru.

Mae clybiau newydd yn agor drwy'r amser wrth i gyfleusterau ddod ar gael ac wrth i fwy o hyfforddwyr/gwirfoddolwyr gymryd rhan. Os hoffech chi wirfoddoli eich gwasanaethau i glwb, mae cyfleoedd bob amser ar gael yn y clybiau yn Nhorfaen a gallaf i eich cynorthwyo i gael hyfforddiant er mwyn i chi fod yn hyfforddwr/gwirfoddolwr cymwysedig yn y gamp/gweithgaredd o'ch dewis.

I gael mwy o wybodaeth am glybiau a grwpiau chwaraeon, ewch i wefan Chwaraeon Anabledd Cymru i weld yr hyn y gallwch gymryd rhan ynddo yn ardal Torfaen.

Fel arall, cyslltwch â Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru i gofrestru a chael diweddariadau rheolaidd wedi'u hanfon atoch.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Datblygu Chwaraeon

Ffôn: 01633 628965

Nôl i’r Brig