Ydych chi eisiau help gyda'ch sefyllfa gyflogaeth?

P'un a ydych chi'n ddi-waith neu fod gennych swydd, mae yna lawer o brosiectau/sefydliadau yn Nhorfaen a all helpu i ddarparu cymorth a hyfforddiant hyblyg i chi a fydd yn eich cynorthwyo i oresgyn rhwystrau.

Gall y prosiectau hyn ddarparu'r sgiliau y gallai fod eu hangen arnoch i fodloni gofynion busnesau lleol ac i gael cyfle i symud ymlaen i swydd o ansawdd da. Gallant hefyd eich cynghori ar ystod o becynnau cymorth i oresgyn unrhyw faterion a allai fod yn eich atal rhag gweithio e.e. gofal plant a chludiant. 

Po fwyaf gymwysterau a sgiliau sydd gennych i'w cynnig, y mwyaf tebygol y byddwch o gael swydd a'i chadw. 

Mae rhai o'r prosiectau hefyd yn cynnig cymorth pan fyddwch wedi dod o hyd i waith fel y gallant barhau i'ch helpu i ddatrys problemau a chadw eich swydd. Mae meini prawf gwahanol yn berthnasol i bob prosiect, ond mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Os ydych angen cymorth hyfforddiant a chyflogaeth, cwblhewch ein ffurflen ymholiad fer yma a bydd aelod o’n tîm cyfeillgar yn cysylltu â chi.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig