Cymunedau i Waith a Mwy a Chymunedau i Waith

Pwy Ydym ni?

Rhaglen Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd a noddir ar y cyd gan yr Adran Waith a Phensiynau yw Cymunedau am Waith. Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Cymunedau am Waith a Mwy ac mae’n gweithredu fel cefnogaeth gofleidiol i’r cynllun Cymunedau am Waith.

Gyda Beth Allwn Ni Helpu?

Mae’r ddau gynllun yn gweithio ochr yn ochr i gefnogi’r rheiny ar draws Torfaen sy’n ddi-waith, a’r rheiny sydd angen goresgyn rhwystrau er mwyn dychwelyd i waith. Gallai’r rhwystrau fod yn unrhyw beth o ofal plant i anghenion hyfforddiant, diffyg trafnidiaeth, hyder isel a dillad ar gyfer cyfweliadau. Mae pob cefnogaeth wedi ei haddasu ar gyfer anghenion unigol a gall cefnogaeth gael ei chynnig mewn sefyllfa 1:1 neu drwy’r clybiau gwaith dyddiol sy’n cael eu cynnal trwy Dorfaen.

Mae’r gefnogaeth sydd ar gael yn cynnwys:

  • Mynediad i gyfleoedd hyfforddi am ddim
  • Ysgogi ac adeiladu hyder
  • Cefnogaeth gyda CV a cheisiadau am swyddi
  • Hyfforddiant cyfweliadau
  • Lleoliadau gwirfoddoli a gwaith
  • Cefnogaeth Sgiliau Hanfodol
  • Cefnogaeth i gael gwaith cyflogedig
  • Cyngor ar hunangyflogaeth

Gallwch ddysgu mwy am ein gwaith yma yn y cyfweliad hwn gyda Phrif Weithredwr Cyngor Torfaen, Stephen Vickers.

Gyda Phwy Allwn Ni Weithio?

Mae cefnogaeth ar gael i drigolion Torfaen sy’n ddi-waith ac yn chwilio am waith. Bydd ein Swyddogion Brysbennu’n cwrdd â chi i gael gwybodaeth bellach oddi wrthych chi er mwyn i ni weld a allwn ni eich cefnogi. Byddan nhw hefyd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi ac esbonio beth sy’n digwydd os na allwch chi weithio gyda ni. Cysylltwch â ni os hoffech chi drafodaeth am hyn.

Ble Ydym Ni?

Ein prif swyddfeydd yw:

  • Gogledd: Y Corn Bin, Stanley Road, Garndiffaith, Pont-y-pŵl, NP4 7LH
  • De: Y Pwerdy, Blenheim Road, Sain Derfel, Cwmbrân, NP44 4SY

Sut Mae Cysylltu â Ni?

Mae yna nifer o ffyrdd i chi gysylltu â ni:

 

Communities for Work Logo .   ESF Logo

Diwygiwyd Diwethaf: 08/02/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cymunedau i Waith a Mwy a Chymunedau i Waith

Ffôn: 01495 742131 ac 01633 648312

Nôl i’r Brig