Gwasanaethau Cyflogaeth Remploy

Esboniad byr o'ch prosiect

Gwasanaethau Cyflogaeth Remploy yw un o'r prif ddarparwyr cymorth cyflogaeth arbenigol yn y DU i bobl anabl a phobl sydd dan anfantais.

Rydym wedi ymrwymo'n gryf i gynhwysiant a chydraddoldeb yn y gweithle. Trwy gydnabod y rôl allweddol y mae cyflogwyr a sefydliadau eraill yn ei chwarae o ran cyflawni cyflogaeth gynaliadwy, mae Remploy yn gweithio gyda phobl anabl er mwyn sicrhau bod ganddynt y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnynt i ddatblygu gyrfaoedd parhaol.

Er mwyn ategu'r cymorth a gynigiwn i bobl anabl, rydym wedi datblygu ystod eang o ddatrysiadau a fydd yn cynorthwyo cyflogwyr i gyflawni gweithlu amrywiol ac agweddau cynhwysiant eu hagendâu cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn llwyddiannus.

Mae gennym ni rwydwaith helaeth o ganghennau a swyddfeydd ledled Cymru, Lloegr a'r Alban, sy'n cynnig ein gwasanaethau i geiswyr gwaith, cyflogwyr a phartneriaid.

Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, rydym wedi dod o hyd i swyddi ar gyfer mwy na 45,000 o bobl anabl a phobl sydd dan anfantais, a chan fod gennym ni fwy na 65 mlynedd o brofiad, ni yw'r partner arbenigol ym maes anableddau y mae busnesau, sefydliadau a darparwyr gwasanaethau yn ymddiried ynddo.

Ble mae'r gwasanaeth ar gael?

Mae ein swyddfa yn Nhorfaen yn Nhŷ Gwent, Cwmbrân.

Ar gyfer pwy y mae'r gwasanaeth?

Os oes gennych chi anabledd neu gyflwr iechyd ac rydych yn dymuno dechrau gweithio neu ddychwelyd i weithio, gall Remploy eich helpu i gael swydd sy'n addas i chi.

Mae gennym ni ganghennau a swyddfeydd ar hyd a lled y wlad, sy'n gwbl hygyrch ac yn cynnwys ystod eang o dechnolegau addasol, er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn ein gweithgareddau datblygu a recriwtio.

Bydd un o'n cynghorwyr profiadol a chefnogol yn gweithio gyda chi i'ch helpu i:

  • Ddatblygu eich sgiliau
  • Dod o hyd i yrfa a fydd yn eich helpu i gyrraedd eich nod
  • Dod yn fwy hyderus ynglŷn â gwaith
  • Dod o hyd i brofiad gwaith/lleoliadau gwaith
  • Ymarfer ar gyfer cyfweliadau, llenwi ffurflenni cais
  • Ysgrifennu CV effeithiol a chwilio am swyddi yn eich ardal.

Rydym ni'n cynorthwyo miloedd o geiswyr gwaith bob blwyddyn i symud i bob math o swyddi boddhaus a chynaliadwy gyda llawer o wahanol gyflogwyr.

Rydym wedi helpu pobl i ddechrau gyrfa mewn rolau gweinyddol a manwerthu, swyddi mewn canolfannau cyswllt, glanhau a rheoli cyfleusterau, gwaith warws a logisteg, arlwyo a llawer mwy. Byddwn yn eich helpu i wneud y mwyaf o'ch galluoedd, fel y gallwch fwynhau'r buddion a ddaw yn sgil gweithio.

Mae ein Gwasanaeth Datblygu Menter yn cynnig cyngor a chymorth i chi sefydlu eich busnes eich hun neu fod yn hunangyflogedig, os dyna yr hoffech ei wneud.

Os ydych chi'n gyn-filwr, gallwn eich cynorthwyo i addasu eich sgiliau a'ch galluoedd a dod o hyd i yrfa sifiliad.

Mae Remploy hefyd yn cynorthwyo pobl ifanc i ddechrau gyrfa, boed hynny ar ôl gadael yr ysgol, y coleg neu'r brifysgol

Beth gall y gwasanaeth ei gynnig?

Beth bynnag yw'ch nodau o ran cyflogaeth, bydd Remploy yn rhoi'r holl gymorth, arweiniad a hyder sydd eu hangen arnoch i'w cyflawni.

Mae gan Remploy bartneriaethau gyda sefydliadau fel Mind, Mencap a Changing Faces, sydd oll yn darparu cymorth arbenigol i'n ceiswyr gwaith, pe byddai arnynt ei angen.

Rydym yn gweithio gyda llawer o gyflogwyr, o gorfforaethau mawr i fusnesau bach, ac maent yn awyddus i gyflogi ymgeiswyr Remploy gan eu bod yn gwybod eu bod nhw'n ddiwyd ac yn ymroddedig i'r swydd. Gallwn hyd yn oed gynnig cyllid i gyflogwyr ar gyfer recriwtio ymgeiswyr Remploy trwy'r Cynllun Cymhelliad Cyflog.

Byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu eich sgiliau trosglwyddadwy a galwedigaethol, a fydd yn rhoi'r cyfle gorau i chi o gael y swydd rydych chi ei heisiau, ni waeth a ydych chi byth wedi gweithio o'r blaen, neu wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir. Byddwn yn eich helpu i wneud y mwyaf o'r sgiliau sydd gennych eisoes ac yn rhoi sgiliau newydd i chi yr ydym yn gwybod y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Bydd ein cynghorwyr yn eich helpu i greu neu ddiweddaru eich CV ac ymarfer ar gyfer cyfweliadau. Yna byddwn yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i swyddi addas a gwneud cais amdanynt, gyda mynediad at adnoddau defnyddiol fel papurau newydd, y rhyngrwyd a ffonau yn ein canghennau i'ch helpu.

Pan fyddwch wedi dechrau gweithio, byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi trwy ein gwasanaeth cymorth yn y gwaith, gan eich helpu i wneud yn dda yn eich rôl newydd a chamu ymlaen yn eich gyrfa. Gallwn hefyd eich helpu i gael cyllid a chymorth ar gyfer addasiadau rhesymol, pe byddai angen unrhyw addasiadau neu offer arbennig arnoch i wneud eich swydd.

Pam mae'r cynllun yn bwysig?

Cenhadaeth Remploy yw trawsnewid bywydau pobl anabl a'r rhai hynny sy'n wynebu rhwystrau cymhleth i waith trwy ddarparu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy.

Rydym yn credu mewn mwy o gynhwysiant a chydraddoldeb i bobl anabl trwy gyflogaeth gynaliadwy.

Rydym o'r farn bod gwaith yn elfen allweddol o fywyd annibynnol a boddhaus, a bod gan bawb sgiliau a galluoedd i'w cynnig. Rydym yn gweithio'n agos gyda phobl i'w helpu i nodi a datblygu'r galluoedd hynny a gwneud y mwyaf ohonynt.

I gyflawni'r nod hwn, mae ein Gwasanaethau Cyflogaeth wedi buddsoddi adnoddau sylweddol mewn cynorthwyo pobl anabl a'r rhai hynny sy'n wynebu rhwystrau cymhleth i waith er mwyn iddynt gael cyflogaeth brif ffrwd. Mae gennym ni rwydwaith o fwy na 64 o ganghennau a swyddfeydd mewn trefi a chanol dinasoedd, sy'n cynnig ystod gynhwysfawr o wasanaethau cymorth wedi'u teilwra.

Rydym yn cydnabod y rôl allweddol y mae cyflogwyr blaenllaw yn ei chwarae o ran cyflawni cyflogaeth gynaliadwy. Rydym hefyd yn cydnabod bod cyflogi pobl anabl yn sicrhau gwerth cymdeithasol ac economaidd gwirioneddol i fusnes. Felly, trwy helpu cyflogwyr i gael gwell dealltwriaeth o fanteision cyflogi pobl anabl a gweithredu ar hynny, gan drawsnewid busnes i bob pwrpas, gallwn helpu i drawsnewid bywydau unigolion.

Prif gysylltiadau:

Melanie Thomas - Rheolwr Cangen - 07939 537 517 - melanie.thomas@remploy.co.uk

Leila Middlehurst-Evans - Rheolwr Cyfrif - 07903 347 957 - leila.middlehurst@remploy.co.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Cyflogaeth Remploy

Ffôn: 07939 537 517

Nôl i’r Brig