Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr

Diolch am ddangos diddordeb mewn rôl yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Dylai eich cais ddangos eich sgiliau a'ch galluoedd yn y ffordd orau ar gyfer y swydd. Darllenwch y canllaw defnyddiol hwn cyn i chi fynd ati i wneud cais.

Mae swyddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan a gellir gwneud cais amdanynt ar-lein yn unig. Os oes angen cymorth arnoch i lenwi eich ffurflen gais ar-lein, mae ein Tîm Cyflogadwyedd ar gael i’ch cefnogi, felly ffoniwch y tîm ar 01633 647822. Mae'r Tîm Cyflogadwyedd yma i gefnogi pob agwedd ar gyflogaeth a byddant yn gallu eich helpu i gyflwyno'ch ffurflen gais ar-lein a'ch cefnogi i ddod o hyd i swydd.

I wneud cais ar lein, bydd angen i chi gofrestru a chreu cyfrif ar lein. Os ydych eisoes wedi cofrestru, ewch ati i fewngofnodi gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair. Os ydych yn gweithio i Dorfaen, ewch ati i ymgeisio’n fewnol gan ddefnyddio system Hunanwasanaeth iFOR.

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Rydym yn argymell eich bod yn darllen y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person yn ofalus.  Mae'n hanfodol eich bod yn dangos tystiolaeth eich bod yn bodloni'r meini prawf hanfodol a amlinellir ym manyleb y person.  Dim ond ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol fydd yn cael eu hystyried ar gyfer y rhestr fer.

Ceisiadau Ar lein

Y ffurflen gais ar-lein yw cam cyntaf y broses recriwtio lle bydd rheolwyr yn ystyried a yw eich sgiliau a'ch priodoleddau yn addas ar gyfer y rôl. Mae'n bwysig eich bod yn mynd ati i lenwi pob cam o'r ffurflen gais mor llawn â phosibl.

Manylion Cyflogaeth

Rhowch fanylion eich hanes cyflogaeth yn llawn, gan ddechrau gyda'ch swydd bresennol. Rhowch fanylion cryno am rôl y swydd, gan gynnwys gwybodaeth neu sgiliau a fydd yn helpu gyda'ch cais.

Cymwysterau, Hyfforddiant ac Aelodaeth Perthnasol

Rhestrwch y cymwysterau a'r hyfforddiant perthnasol yr ydych wedi'u cyflawni, a/neu unrhyw achrediad proffesiynol a gyflawnwyd. Bydd angen prawf o gymwysterau, hyfforddiant, aelodaeth o gorff proffesiynol a rhagofynion eraill y rôl gan yr ymgeisydd llwyddiannus.

Geirdaon

Ymgeiswyr allanol 

Bydd angen rhoi manylion dau ganolwr. Dylai’r rhain gynnwys canolwr o’ch swydd bresennol lle bo hynny’n bosibl. Os nad ydych yn gweithio ar hyn o bryd, rhowch fanylion eich cyflogwr diweddaraf.

Ymgeiswyr mewnol

Bydd angen manylion un canolwr. Rhowch fanylion eich rheolwr presennol y gofynnir iddo ddarparu geirda ar gyfer eich gwaith presennol.

Dim ond os bydd ymgeiswyr yn llwyddiannus yn y cyfweliad y cysylltir â chanolwyr. Nodwch na fydd aelodau o'r teulu, ffrindiau na chymdogion yn cael eu derbyn fel canolwyr.

Datganiad Ategol

Sicrhewch eich bod yn rhoi cymaint o fanylion â phosibl yn eich datganiad. Mae'n bwysig rhoi sylw i’ch gwybodaeth, sgiliau a phrofiad i fodloni'r meini prawf hanfodol a amlinellir ym Manyleb y Person a dangos eich bod yn gallu cyflawni dyletswyddau'r rôl. Dim ond os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol y gellir ystyried eich cais ar gyfer y rhestr fer.

Rydym yn croesawu ceisiadau o dan y Cynllun Yn Gadarn o Blaid Pobl Anabl a byddwn yn gwarantu bod person ag anableddau yn cael ei wahodd i gyfweliad os yw’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd. Fel rhan o’n hymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog, mae’r cyngor wedi mabwysiadu polisi newydd ar gyfer milwyr wrth gefn. Mae ganddo gynllun i warantu bod aelodau o gymuned y lluoedd arfog yn cael eu gwahodd i gyfweliad.

Cynllun Gwarantu Cyfweliad (GIS)

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gweithredu Cynllun Gwarantu Cyfweliad (GIS)

Ymgeiswyr ag anabledd

Fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl ag anableddau. Mae'r cynllun hwn yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf a'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl.

Cyn-filwyr

Cynigir cyfweliad gwarantedig i bobl sy’n bodloni’r meini prawf a’r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl AC sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd yn y lluoedd arfog ac o fewn 12 wythnos i’w dyddiad rhyddhau NEU’r lluoedd arfog oedd eu cyflogwr hirdymor diwethaf.

Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Bydd Manyleb y Person yn nodi a yw'r Gymraeg yn hanfodol i'r rôl.

Monitro Amrywiaeth

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi ymrwymo i Gyfleoedd Cyfartal o ran cyflogaeth a darparu gwasanaethau. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n recriwtio, yn cadw ac yn datblygu staff o gefndiroedd amrywiol. Mewn gweithleoedd cynhwysol, mae pob gweithiwr yn teimlo bod croeso iddynt, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu bod yn cael eu cynnwys, eu cefnogi a'u galluogi i fod yn nhw eu hunain - sy'n meithrin hyder, cymhelliant, mwy o foddhad yn y swydd ac yn y pen draw canlyniadau gwell i'n cymunedau.

Mae adran y cais sy’n cyfeirio at Fonitro Amrywiaeth yn rhan o'r broses ymgeisio ac mae’r Cyngor yn defnyddio’r wybodaeth hon at ddibenion monitro yn unig. Ni ddefnyddir yr adran hon o'r cais fel rhan o'r broses ddethol ac nid yw ar gael i reolwyr sy’n recriwtio.

Er mwyn monitro pa mor effeithiol yw ein polisïau, byddem yn gwerthfawrogi pe baech yn llenwi'r adran hon a fydd yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Gallwch atal eich caniatâd i brosesu’r data hwn ar unrhyw adeg drwy hysbysu Swyddog Diogelu Data’r Cyngor neu Bennaeth yr adran Adnoddau Dynol.

Datganiad

Gellir dod o hyd i fersiwn llawn o Hysbysiad Preifatrwydd Adnoddau Dynol yma

Drwy gwblhau a chyflwyno eich cais rydych yn derbyn telerau'r datganiad. Gall peidio â datgelu gwybodaeth berthnasol a darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol arwain at atal eich cais neu derfynu penodiad.

Y Camau Nesaf

Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais, byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich cais.  Bydd eich cais yn cael ei anfon yn awtomatig at y rheolwr recriwtio a’i ystyried ar ôl y dyddiad cau.

Os bydd eich cais yn cyrraedd y rhestr fer, bydd y rheolwr recriwtio yn anfon e-bost atoch i’ch gwahodd i gyfweliad gyda manylion yr hyn fydd yn ofynnol gennych chi a gwybodaeth am y dyddiad, yr amser a’r lleoliad.

Cysylltu â ni

Anfonwch e-bost at y Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Diwygiwyd Diwethaf: 16/04/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Recriwtio

E-bost: recruitment@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig