Gweithio yn y Cyngor

Mae’r cyngor yn un o gyflogwyr mwyaf y fwrdeistref sirol, ac rydym bob amser yn chwilio am bobl dalentog a brwdfrydig i ymuno â’n tîm. P’un ai a oes gyda chi ddiddordeb mewn cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, cefnogi’n cymunedau, neu ddatblygu eich sgiliau a’ch gyrfa, mae gyda ni amrywiaeth o gyfleoedd i chi.

Ein gweledigaeth yw creu bwrdeistref sirol sy’n ffyniannus, yn iach ac yn wydn, ble mae pobl am fyw, gweithio ac ymweld â hi.

Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb, yn rhoi gwerth ar amrywiaeth, ac yn cynnig ymrwymiad i gefnogi ein gweithlu ac, yn fwyaf pwysig, eu lles. Mae gennym ddiwylliant cadarnhaol a chynhwysol, ble rydym yn parchu ein gilydd, yn dathlu ein llwyddiannau, ac yn dysgu o heriau. Rydym yn rhoi gwerth ar farn ein cyflogeion ac yn cynnig amgylchedd gwaith cefnogol ble gallwch ddysgu sgiliau newydd, cael cyfleoedd am swyddi a datblygu gyrfa cadarnhaol a gwerth chweil.

Chwilio am swydd

Exterior view of Civic Centre, Pontypool

Cyflogau cystadleuol

Yma yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, mae cyflogeion yn cael eu talu am gyfrifoldebau eu swyddi o dan ein polisi gwerthuso swyddi. Rydym yn cynnig strwythur cyflog a graddio tryloyw sy’n cynnwys cynnydd cyflog pan fo’ch patrwm gwaith yn cynnwys gwaith gyda’r hwyr ac ar benwythnosau.

I gael mwy o wybodaeth gweler y Polisi Cyflogau

Family walking on the beach

Hawl i wyliau hael

Lleiafswm hawl cyflogeion yw 23 diwrnod y flwyddyn, pro-rata i gyflogeion rhan amser. Ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth parhaus mewn llywodraeth leol, mae’r lleiafswm yn codi i 28 diwrnod y flwyddyn, ac ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth parhaus mewn llywodraeth leol, mae’r hawl yn codi i 31.

Mae hawl i 11 diwrnod o wyliau banc y flwyddyn.

Woman working on a laptop at home, with home comforts surrounding her

Gweithio hyblyg

Mae’r cyngor wedi ymrwymo i gynnig amgylchedd cefnogol a hyblyg i’n staff. Rydym yn deall fod gan bobl wahanol anghenion a dewisiadau gwahanol, ac rydym am eich helpu i gael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.

Gall trefniadau gweithio hyblyg gynnwys gweithio rhan amser, patrymau gwaith amrywiol, oriau cywasgedig etc..

Ble mae anghenion y gwasanaeth yn caniatáu hynny, mae gweithio hybrid a threfniadau hyblyg yn cynnig dewis i gyflogeion, gan eich helpu i gydbwyso ymrwymiadau gwaith a bywyd cartref.

Mae technoleg y cyngor yn eich galluogi chi i weithio o'r swyddfa neu gartref i gynyddu hyblygrwydd a lleihau amser a chostau teithio.

Family watching the sunset

Polisïau cyfeillgar i deuluoedd

Mae gyda ni bolisïau amrywiol cyfeillgar i deuluoedd mewn grym ar gyfer: 

  • Mamolaeth ac Tadolaeth
  • Mabwysiadu
  • Absenoldeb Arbennig ac Ychwanegol
  • Absenoldeb Rhieni
Piles of coins showing growth of money

Cynlluniau pensiwn hael

Gall cyflogeion elwa o rai o’r cynlluniau pensiwn mwyaf hael a diogel yn y DU. Gan ddibynnu ar eich rôl, gallwch ymuno â naill ai’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon.

Mae’r ddau gynllun yn cynnig rhyddhad o dreth ar y cyfraniadau yr ydych yn eu talu ac amrywiaeth o fuddion i chi a’ch dibynyddion.

Coins stacked on a table with a pig money bank in the background

Cynilion a benthyciadau gydag Undeb Credyd Gateway

Mae cynilo’n uniongyrchol o’ch cyflog yn ffordd hawdd a chyfleus i gynllunio talu am achlysuron arbennig, gwyliau, y Nadolig neu’n gyffredinol ar gyfer costau annisgwyl fel atgyweiriadau i gar. Cynilion i’r teulu i gyd gyda chyfrifon Cynilwyr Ifanc a Chronfeydd Ymddiriedolaeth Plant.

Benthyciadau am gost is am hyd at £10,000 gyda chyfraddau o 4.9% a chynigion a all fod yn well na’ch banc.

Mae cynilion a benthyciadau i gyd ar gael i’n cyflogeion i gyd.

Gwybodaeth bellach ar gael trwy www.gatewaycu.co.uk

Hands forming the shape of a heart with the sun shining through

Iechyd a lles

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi ymrwymo i iechyd a lles cyflogeion.

yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogaeth gyda chyfleoedd am amrywiaeth o gyrsiau sy’n rhoi gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau iechyd a lles.

Hands holding a smart phone displaying the staff benefits app

Cynlluniau buddion i staff ac aberthu cyflog

Mae ein cyflogeion i gyd yn elwa o raglen arbedion a buddion arbennig sy’n cynnig amrywiaeth wych o arbedion pob dydd ar 1000oedd o gynigion unigryw sydd ar gael ar-lein neu ar y stryd fawr, ledled y wlad ac yn ein hardal leol, gan gynnwys gostyngiadau ar nwyddau pob dydd, gwyliau, bwyta allan, DIY, offer trydanol, yswiriant, moduro a mwy.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gynlluniau aberthu cyflog, gan gynnwys Beicio i’r Gwaith a Buddion Car.

Mae aelodaeth o Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen ar gael i bob un o gyflogeion Cyngor Torfaen. Mae’r pecyn yn llawn dop gydag amrywiaeth o weithgareddau sy’n addas ar gyfer bywyd prysur gyda mynediad ar unrhyw adeg i’w campfeydd, nofio, dosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp, trac rhedeg ac ystafelloedd iechyd.

Gall cyflogeion Cyngor Torfaen elwa o gost aelodaeth gorfforaethol yng Nghlwb Iechyd Nuffield yng Nghwmbrân.

Training and development

Cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad

Yn Nhorfaen rydym wedi buddsoddi mewn pobl a’u dyfodol. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu, yn fewnol ac yn allanol a mynediad at gymwysterau.

Rydym yn cefnogi ac yn annog pob cyflogai i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiad.

Mae ein Rhaglen Datblygu Gyrfa wedi cael ei datblygu ar gyfer ein gweithlu presennol ac yn y dyfodol. Mae’n gynhwysol ac mae’n cefnogi pobl i gyrraedd eu potensial llawn

Interior of a car showing drivers hand on the steering wheel

Costau teithio

Cyfradd teithio busnes y cyngor yw 45c y milltir yn unol â chyfradd gymeradwy CThEF.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 07/10/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Recriwtio

E-bost: recruitment@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig