Datganiad manwl y cyngor ar dyllau ffyrdd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 13 Chwefror 2026

Mae cyflwr ffyrdd a thyllau wedi dod yn destun dadl danllyd. Rydym yn deall eich rhwystredigaeth ac rydym yn rhannu eich pryderon yn wirioneddol.

Mae ein timau priffyrdd yn gweithio'n galed bob dydd, gan ail-wynebu, clytio a gwneud yn ddiogel gydag atgyweiriadau dros dro, tra bod atgyweiriadau ac ail-wynebu tymor hir yn cael eu trefnu.

Ar ôl cyfnod hir o doriadau cyllideb i lywodraeth leol, mae cynghorau ledled y DU bellach yn delio â chanlyniadau tanfuddsoddiad parhaus mewn priffyrdd.

Arweiniodd toriadau mewn cyllid blwyddyn ar ôl blwyddyn at ddewisiadau anodd ar ba wasanaethau hanfodol oedd angen eu diogelu fwyaf, gan gynnwys gwasanaethau fel gofalu am drigolion agored i niwed ac addysg.

Y canlyniad yw bod cyflwr ffyrdd lleol wedi dod yn fater cenedlaethol, nid yn un sy'n unigryw i Dorfaen.

Mae hefyd wedi bod yn un o'r Ionawr gwlypaf erioed gyda Derek Brockway o’r BBC yn tynnu sylw at Flaenafon fel y lle gwlypaf yng Nghymru yn ystod mis Ionawr.

Oherwydd hyn, mae ein ffyrdd wedi cael ergyd go iawn, ac yn enwedig ar dir uwch lle mae dŵr glaw yn mynd i mewn i graciau bach, yn rhewi, yn  ehangu ac yn torri'r wyneb, gan adael mannau gwan lle mae tyllau’n ffurfio'n gyflymach.

Mae'r glaw parhaus yn arafu atgyweiriadau parhaol; ac rydym yn derbyn nad yw'r dull clytio dros dro bob amser yn ymddangos fel y defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau, ond mae yna adegau pan fydd ateb cyflym yn hanfodol.

Ym mis Ionawr yn unig, dywedwyd am 610 o dyllau i'r Cyngor, o'i gymharu â 171 y llynedd ac, ers Ebrill 2024, mae dros 2,100 o atgyweiriadau tyllau wedi'u gwneud ledled y fwrdeistref yn unol â chanllawiau a deddfwriaeth.

Yn ogystal â'r gyllideb briffyrdd flynyddol, mae'r cyngor yn buddsoddi £6.4m ychwanegol mewn gwella ffyrdd lleol dros y pum mlynedd nesaf, sy'n golygu y bydd tua 80 o ffyrdd yn cael eu hailwynebu fel rhan o'r buddsoddiad hwn. Mae hyn yn cael ei ariannu gan £4m mewn buddsoddiad cyfalaf ychwanegol a £2.44m o Fenter Benthyca Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.

Mae wedi bod yn aeaf hir, garw, ond pan fydd y tywydd yn gwella, rydym yn disgwyl i'r buddsoddiad ychwanegol a gwaith atgyweirio ddechrau gwneud gwahaniaeth gweladwy.

Rydym yn gwerthfawrogi eich sylwadau, ond rydym yn annog trigolion i ddweud am dyllau trwy fynd at Rhoi gwybod am broblem gyda heol, palmant neu briffordd gan fod adrodd ffurfiol yn creu cofnod ac yn ein helpu i flaenoriaethu ymateb gyda’r adnoddau sydd gyda ni ar gael.

Diwygiwyd Diwethaf: 13/02/2026 Nôl i’r Brig