Prentisiaethau
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn gyflogwr sylweddol gyda gweithlu o tua 4000 o weithwyr. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod ei weithwyr yn allweddol i ddarparu gwasanaethau rhagorol i ddinasyddion a chymunedau lleol Torfaen ac felly mae wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu medrus ac addasadwy.
Mae prentisiaid yn weithwyr sy'n cael hyfforddiant a chefnogaeth i'w galluogi i ddatblygu i fod mewn rôl drwy ymgymryd â hyfforddiant yn y swydd.
Mae prentisiaid yn cael eu cyflogi gyda'r bwriad o ddod i'r Cyngor am gyfnod o 24 mis, yn dibynnu ar y cymhwyster y maent am ei ennill. Maent yn ennill yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol i Brentisiaid, yn ôl eu hoedran ar ddechrau eu prentisiaeth. Ni ellir sicrhau y bydd ganddynt swydd barhaol ar ddiwedd y brentisiaeth.
Edrychwch ar y dudalen Swyddi ar ein gwefan am gyfleoedd prentisiaeth.
Chwilio am swydd
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, lawr lwythwch gopi o'r Canllaw Rhaglen Datblygu Gyrfa
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â: kerry.agate@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 07/10/2024
Nôl i’r Brig