Meithrin Cymunedau Cydnerth
Mae’r tîm Meithrin Cymunedau Cydnerth yn gweithio’n agos gyda CFW & CFW + i ddarparu pecyn o gymorth cofleidiol. Mae hyn yn cynnwys cymorth ymarferol ac emosiynol i helpu unigolion a theuluoedd i oresgyn yr heriau y gall digwyddiadau anodd bywyd eu hachosi.
Mae effaith Covid 19 dros y misoedd diwethaf wedi ysgogi pryderon ynglŷn ag iechyd, profedigaeth, cyflogaeth, arian ac i’r sawl gyda phlant, pryderon ychwanegol ynglŷn ag addysg yn y cartref a’u cadw’n ddiddan, yn enwedig gyda gwyliau’r haf o’n blaenau!
Mae’r cymorth a ddarperir yn canolbwyntio ar y cleient ac yn gweithio gyda’r cleient i ganfod ffyrdd o addasu a goresgyn yr heriau hyn drwy dwf personol. Gellir gwneud hyn mewn sesiynau grŵp a sesiynau 1-1.
Mae’r sesiynau yn canolbwyntio ar:-
- Les corfforol a meddyliol a ffyrdd o reoli straen
- Meithrin hyder gydag arweiniad cadarnhaol a chefnogol a chynllunio’r camau nesaf
- Edrych ar bryderon ariannol: cyllidebu, ffyrdd o gynyddu incwm, grantiau i ddelio gyda chaledi ariannol
- Rhoi cymorth i rieni i helpu eu plant i gyflawni eu potensial, drwy feithrin sgiliau rhianta a hyrwyddo sefydlogrwydd emosiynol
- Pennu amcanion gan edrych ar gyfleoedd dysgu / hyfforddi a chyflogaeth
I gysylltu gyda’r tîm drwy’r dudalen Facebook www.facebook.com/buildingresilientcommunitiestorfaen neu’n uniongyrchol:
Diwygiwyd Diwethaf: 20/12/2022
Nôl i’r Brig