Gofal Preswyl a Gofal Nyrsio

Mae gadael eich cartref a symud i gartref gofal preswyl yn gam mawr iawn i unrhyw un. Yn yr un modd ag unrhyw benderfyniad pwysig, mae angen ei ystyried yn ofalus ac ni ddylech ruthro.

Mae dewisiadau eraill ar gael i chi, e.e. Byw'n Annibynnol (aros gartref gyda chymorth) neu symud i lety â chymorth neu lety gwarchod.

Fodd bynnag, ar ôl ystyried yn ofalus, fe allech chi a'ch teulu benderfynu mai gofal preswyl yw'r ffordd orau o fodloni eich anghenion gofal. Mae'n bwysig dewis cartref gofal a fydd yn bodloni eich anghenion corfforol, emosiynol a chymdeithasol, yn awr ac yn y dyfodol, ac y byddwch yn teimlo'n gyfforddus yn byw yno.

Mae pob cartref gofal preswyl yn cynnig gofal personol i bobl nad ydynt yn gallu byw gartref mwyach, hyd yn oed gyda chymorth.

Mae cartrefi nyrsio yn darparu gofal nyrsio yn ogystal â gofal personol ac mae'n rhaid iddynt sicrhau bod staff nyrsio cymwysedig ar ddyletswydd bob amser. 

Os nad ydych yn derbyn cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol ar hyn o bryd, cysylltwch â Gofal Cwsmeriaid ar 01495 762200. 

Os ydych yn yr ysbyty, gofynnwch i'r ward wneud atgyfeiriad i dîm gwaith cymdeithasol yr ysbyty. 

Bydd y wybodaeth ar y tudalennau hyn yn eich helpu i wneud y penderfyniad cywir ynghylch pa fath o ofal preswyl a fydd yn gweddu orau i chi. 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Cymdeithasol

Ffôn: 01495 762200

E-bost: social.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig