Rhywun i siarad ar eich rhan

Beth yw eiriolaeth?

Gwent Access to Advocacy Logo

Mae eiriolaeth yn wasanaeth annibynnol a chyfrinachol am ddim sydd yn eich helpu i ddeall eich hawliau a chael mwy o lais, dewis a rheolaeth pan fydd penderfyniadau yn cael eu gwneud sydd yn cael effaith arnoch chi.

Sut gall eiriolwr helpu?

Mae eiriolwr yn rhywun fydd:

  • yno yn arbennig i chi ac yn eich cefnogi
  • yn eich helpu i ddarganfod a deall gwybodaeth
  • yn eich helpu i ystyried eich opsiynau a gwneud penderfyniadau eich hun
  • yn sicrhau bod gwrandawiad ac ystyriaeth i'ch barn, dymuniadau a theimladau
  • yn siarad ar eich rhan pan fydd angen hynny

A yw'r llinell gymorth eiriolaeth yn addas i mi?

Ydy os ydych chi:

  • yn 18+, yn byw yng Ngwent Fwyaf (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen) ac angen cymorth i siarad gyda gweithwyr proffesiynol y gwasanaethau cyhoeddus am eich anghenion gofal a chefnogaeth
  • yn ofalwr 18+, yn byw yng Ngwent Fwyaf ac angen cymorth i siarad gyda gweithwyr proffesiynol y gwasanaethau cyhoeddus am anghenion gofal a chefnogaeth chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdanynt
  • yn berthynas, ffrind neu'n weithiwr proffesiynol sydd yn credu byddai rhywun yn buddio o dderbyn eiriolaeth

Beth sydd yn digwydd pan fyddaf yn cysylltu â'r llinell gymorth eiriolaeth?

Rydym yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gyda chyfeiriadau at wasanaethau eiriolaeth i oedolion. Gan ein bod yn annibynnol o awdurdodau lleol, y GIG a darparwyr eiriolaeth, gallem sicrhau eich bod yn derbyn y fath o eiriolaeth sydd yn gywir i chi.

Byddem yn:

  • gofyn am ychydig o wybodaeth sylfaenol, gan gynnwys manylion cyswllt (yn unol â rheolau amddiffyn data)
  • gofyn i chi ddisgrifio'ch sefyllfa yn gryno
  • eich hysbysu am y gwahanol fathau o eiriolaeth
  • trafod y math o eiriolaeth sydd fwyaf addas i chi
  • darparu gwybodaeth am wasanaethau eiriolaeth sydd yn agored i chi a sut i gysylltu

Mae’r llinell gymorth rhad ac am ddim ar gael rhwng 10am-3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 0808 801 0566.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan: www.gata.cymru

Diwygiwyd Diwethaf: 13/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig