Trefnu gofal ar eich cyfer eich hun

Wrth i’ch amgylchiadau newid efallai y gwelwch nad ydych bellach yn medru ymdopi cystal ag yr oeddech yn eich cartref.

I ddechrau, byddai’n syniad da cysylltu â’r gwasanaeth gofal cymdeithasol i drefnu asesiad a byddai hyn eich helpu i ganfod eich anghenion a sut y gellir eu cyflawni. Hyd yn oed os nad ydych am i’r gwasanaeth gofal cymdeithasol drefnu gwasanaethau ar eich cyfer, byddai asesiad yn ffordd o edrych ar y gwasanaethau a allai eich helpu.

Dod o hyd i weithiwr gofal ar eich pen eich hun

Gallwch ddod o hyd i weithiwr gofal trwy asiantaeth neu drwy gyflogi rhywun eich hun . Mae’n bwysig eich bod yn glir ynglŷn â’r math o help sydd ei angen arnoch i weld a all asiantaeth neu unigolyn penodol gyflawni eich anghenion.

Rhaid bod asiantaethau sydd yn darparu nyrsys neu weithwyr gofal sydd yn cyflawni tasgau gofal personol wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Trafodwch gyda’r asiantaeth pa ffordd fyddai orau i fodloni eich anghenion.

Gallwch gyflogi gweithiwr gofal, neu unrhyw fath arall o help yn uniongyrchol yn hytrach na mynd trwy asiantaeth. Gall hyn fod yn gymhleth a rhaid i chi fod yn glir am yr hyn yr ydych yn ei wneud, yn enwedig o ran contract cyflogaeth, ymrwymiadau ariannol a allai godi fel cyfraniadau Yswiriant Gwladol, a chymryd geirdaon dibynadwy.

I gael gwybod mwy cysylltwch â Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW)

Rhif ffôn: 0300 0628800

E-bost: CSSIW@wales.gsi.gov.uk

Nôl i’r Brig