Seibiannau byr i blant anabl

Weithiau, cyfeirir at seibiannau byr fel 'seibiant' neu 'ofal seibiant' oherwydd yn ogystal â bod yn fuddiol i'r plentyn anabl, maent hefyd o les i weddill y teulu, gan gynnwys plant eraill yn y teulu. 

Fodd bynnag, yn gyntaf mae'n rhaid i bob seibiant byr fodloni anghenion y plentyn neu'r person ifanc ag anableddau; dylai'r gwasanaethau seibiant a gynigir alluogi plant anabl i fyw bywyd mor arferol â phosibl a, lle bynnag y bo'n bosibl, ni ddylai plant anabl gael eu cadw ar wahân. Rhoddir blaenoriaeth i ddiogelwch a lles y plentyn neu'r person ifanc a bydd cymaint o ddewis â phosibl yn cael ei gynnwys yn y cynllun. 

Mae sawl gwahanol fath o seibiant byr yn bosibl – yn dibynnu ar anghenion asesedig pob plentyn neu berson ifanc, a'u hamgylchiadau unigryw. 

Yn dilyn Rheoliadau Seibiannau i Ofalwyr Plant Anabl (Cymru) 2012, mae Cyngor Torfaen wedi cynhyrchu ei Ddatganiad Gwasanaeth Seibiannau Byr

 cyntaf. Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i bob plentyn a pherson ifanc anabl rhwng 0 a 18 oed sy'n byw yn Nhorfaen a'u rhieni a'u gofalwyr. Mae gwaith ar y datganiad yn parhau a bydd yn cael ei adolygu'n barhaus gan blant a phobl ifanc anabl a'u teuluoedd. Mae'r ddogfen hon wedi'i llunio i roi gwybodaeth i chi am y canlynol:

  • Pwy all gael seibiannau byr
  • Y math o seibiannau byr sydd ar gael yn Nhorfaen ar hyn o bryd
  • Sut mae seibiannau byr yn bodloni anghenion a dyheadau plant a phobl ifanc anabl a'u teuluoedd yn Nhorfaen
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Plant Anabl

Ffôn: 01495 762200

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig