Asesiadau - Gwasanaethau Plant

Os ydych chi o'r farn bod ar eich plentyn neu eich teulu angen help gan y Gwasanaethau Plant, cysylltwch â ni.

Ein hethos yn y gwasanaethau plant yw cefnogi teuluoedd trwy adeiladu ar eich cryfderau a gwrando ar eich anghenion a'ch gofynion.

Byddwn yn darganfod, wrth siarad gyda chi, pa help sydd ei angen arnoch ac yn eich rhoi mewn cysylltiad â'r bobl iawn. Mae cael cyngor a chefnogaeth yn gynnar yn gallu atal problemau rhag gwaethygu. Mae gennym nifer o wasanaethau ataliol a all gynnig cefnogaeth a theilwra pecyn cymorth i'ch teulu.

Cyn y gallwn gynnig cefnogaeth i chi, efallai y bydd angen i ni ddarganfod mwy am anghenion eich teulu - rydym yn galw hwn yn Asesiad Gofal a Chymorth. Er mwyn cwblhau asesiad, efallai y byddwn yn gofyn nifer o gwestiynau am eich bywyd teuluol a'ch pryderon gan y bydd hyn yn ein helpu i nodi'r gefnogaeth gywir i chi.

Os byddwn ni'n gwneud asesiad, gallwn benderfynu gyda'n gilydd pa help y gellir ei gynnig i chi.

Os ydych chi'n teimlo y gallech elwa o unrhyw rai o'n gwasanaethau, cysylltwch â Gofal Cwsmeriaid Torfaen ar 01495 762200 neu anfonwch e-bost i ni drwy socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk

Hefyd, gallwch ysgrifennu atom ni:

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Thai Torfaen 
Y Ganolfan Ddinesig
Pont-y-pŵl
NP4 6YB

Diwygiwyd Diwethaf: 13/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gofal Cymdeithasol a Thai

Ffôn: 01495 762200

E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig