Gofalwyr ifanc
Pwy rydyn ni'n eu cefnogi?
Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Torfaen yn cefnogi gofalwyr di-dâl dan 18 oed. Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio gofalwyr ifanc yn ‘blant a phobl ifanc sy’n helpu i ofalu am aelod o’r teulu sy’n sâl, yn anabl, sydd â phroblemau iechyd meddwl neu’r rheiny y mae camddefnyddio sylweddau wedi effeithio arnynt’.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Mae gan gynghorau gyfrifoldeb am les gofalwyr ifanc a rhaid iddynt sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol. Yn Nhorfaen, rydym yn cydnabod y rôl bwysig y mae gofalwyr ifanc yn ei chwarae ac rydym yn darparu cefnogaeth a chyfleoedd hamdden i alluogi gofalwyr ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chysylltiadau cymdeithasol sy'n briodol i'w hoedran..
Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Torfaen yn cefnogi dros 140 o ofalwyr ifanc. Aseswyd anghenion y gofalwyr ifanc hyn ac mae cefnogaeth yn cael ei darparu. Gall y gefnogaeth gynnwys;
- Cefnogaeth un i un
- Grwpiau cymdeithasol
- Hyfforddiant
- Gweithgareddau Preswyl a theithiau
- Rhywun i siarad ag ef, er mwyn lleihau pryder, straen ac unigedd
- Seibiant o'u cyfrifoldebau gofalu ac i gwrdd â gofalwyr ifanc eraill
Gyda phwy arall y mae’r gwasanaeth yn gweithio?
Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Torfaen yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r:
- Gwasanaeth Ieuenctid
- Adran Chwarae Torfaen
- Adran Datblygu Chwaraeon
- Cyngor Ieuenctid Pont-y-pŵl
- Sefydliadau trydydd sector eraill gan gynnwys Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Honeypot, i gael canlyniadau gwell i'n gofalwyr ifanc.
Mae rhagor o fanylion am y partneriaethau uchod a pha gymorth sydd ar gael, yn ogystal â'r broses i gael mynediad i'r Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc ar gael ar ein Taflen Wybodaeth i Bobl Ifanc.
I blentyn gael eich ystyried yn Ofalwr Ifanc, rhaid iddo fodloni’r 3 maen prawf a ganlyn:
- Maent o dan 18 oed
- Maent yn gofalu neu’n rhoi cefnogaeth sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y byddai'n rhesymol ei ddisgwyl i rywun o'u hoedran
- Maent yn gofalu am rywun sydd ag anabledd, salwch, neu broblem sylweddol o ran camddefnyddio sylweddau
Mae'r meini prawf hyn yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod cymorth yn cael ei gyfeirio at blant y mae eu cyfrifoldebau gofalu yn cael effaith ystyrlon ar eu lles a'u bywyd bob dydd, gan eu gwahaniaethu oddi wrth blant sy'n rhoi cymorth nodweddiadol, sy'n briodol i'r oedran o fewn y teulu.
Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlentyn/teulu ac yn dymuno atgyfeirio at y Gwasanaethau Cymorth i Ofalwyr Ifanc, a fyddech cystal â llenwi Ffurflen Atgyfeirio ar gyfer Gofalwr Ifanc yn Nhorfaen a’i hanfon mewn e-bost at y Tîm Gofalwyr Ifanc yn youngcarers@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 27/04/2026
Nôl i’r Brig