Gofal seibiant

Os ydych yn ofalwr, mae’n bwysig eich bod yn cael seibiant o bryd i’w gilydd i ailwefru’ch batris i’ch galluogi i barhau yn eich rôl fel gofalwr.

Gall hyn gynnwys cael rhywun yn eich cartref i ofalu am y person yr ydych yn ei ofalu amdano, tra eich bod yn mynd allan am ychydig oriau, neu, fe all olygu bod y person sy’n derbyn gofal yn  mynd i gartref gofal preswyl am gyfnod byr o amser, ee wythnos.

Gall gofal preswyl hefyd fod yn brofiad positif i’r person yr ydych yn gofalu amdano am ei fod yn cynnig cyfle i newid cynefin a newid trefn.

Fel arfer, gall eich gweithiwr cymorth gofal cymdeithasol, meddyg neu nyrs gymunedol (os oes gan y person sy’n derbyn gofal anghenion gofal iechyd) drefnu gofal seibiant.

Os ydych yn dewis gofal seibiant preswyl, fel arfer byddwch chi a’r person sy’n derbyn gofal yn cael cyfle i ymweld â’r cartref preswyl cyn i chi drefnu unrhyw arhosiad, er mwyn tawelu meddwl y ddau ohonoch.

Mae Torfaen hefyd yn cynnig gofal seibiant teuluol tymor byr i bobl ag anableddau dysgu, anableddau corfforol neu broblemau iechyd meddwl.

I gael ragor o wybodaeth am ofal seibiant, cysylltwch â’ch gweithiwr cymorth neu Galw Torfaen ar 01495 762200.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: social.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig