Beth yw Gofalwr?

Os ydych chi’n edrych ar ôl cymar, neu berthynas neu ffrind sydd yn sâl neu’n anabl (ac nid ydych yn cael eich cyflogi i wneud) rydych yn ofalwr hyd yn oed os nad ydych yn meddwl amdanoch chi’ch hun felly.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch ofalu am rywun.

P’un ai ydych chi wedi gofalu am rywun ers amser hir, efallai yn ystyried rhoi cymorth i rywun sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd a sydd nawr yn paratoi at ddod adref.  Nod y tudalennau yma yw eich cefnogi chi i ystyried yr opsiynau sydd ar gael i chi.

Os ydych yn ystyried eich hun yn ofalwr fe allwch chi ofyn am asesiad – yn yr un modd ag y gall yr unigolyn yr ydych yn gofalu amdano/amdani ofyn am asesiad.

Efallai y bydd Hwb Gofalwyr Torfaen o gymorth i chi – mae’r hwb yn cynnig cyngor a chyfarwyddyd ac mae hi ar agor i bawb p’un ai ydych chi’n dewis cael asesiad ai peidio.

Gall rhai gofalwyr hawlio Lwfans Gofalwr, mae gan wefan direct.gov.uk fwy o wybodaeth. Does dim rhaid cael asesiad er mwyn derbyn lwfans gofalwyr.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gofal Cymdeithasol a Thai

Ffôn: 01495 762200

E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig