Grantiau Gofalwyr

Cronfa Cymorth Gofalwyr De-ddwyrain Cymru

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cynnig grantiau un-tro i ofalwyr di-dâl sy'n byw yn Nhorfaen i helpu gyda'r argyfwng costau byw.

Gall gofalwr fod yn unrhyw un, o unrhyw oedran, sy'n gofalu ac yn cynorthwyo perthynas, ffrind neu gymydog sy'n anabl, yn gorfforol neu'n feddyliol sâl, neu y mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio arnynt, a hynny heb dâl.

Categorïau y gellir gwneud cais amdanynt:

  • Grant bwyd
  • Offer bach ar gyfer y cartref, sy’n arbed ynni (microdon, ffwrn ffrio neu bopty pwyll)
  • Dillad
  • Ffôn symudol

Gwneud cais

Bydd y grant ar agor yn ystod Mehefin, Awst, Hydref a Rhagfyr (tan i’r cyllid gael ei ddefnyddio’n llawn). Pan fydd y grant ar agor, bydd yn cael ei hysbysebu ar ein tudalen Facebook Gofalwyr Sy’n Oedolion.

Er mwyn osgoi gordanysgrifio, rydyn ni wedi dyrannu swm penodol bob tro y bydd y grant yn cael ei lansio.  Pan fyddwn yn cyrraedd ein swm, bydd y cynllun grant yn cau tan y mis nesaf.

SYLWER: Os ydych wedi derbyn grant gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ers mis Mehefin 2024, ni fydd gennych hawl i ailymgeisio.

Gwneud cais am grant Cronfa Cymorth i Ofalwyr De-ddwyrain Cymru

Mae copïau papur ar gael ar gais.  Anfonwch e-bost i carersupport@torfaen.gov.uk os oes angen copi papur arnoch.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/11/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

Ebost: social.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig