Cerbydau Hurio Preifat

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am y weithdrefn y mae angen i chi ei dilyn i gael trwydded cerbyd hurio preifat. Mae'n cynnwys y manylion gofynnol ar gyfer y cerbyd a sut i gael plât trwydded, ac mae'n rhoi rhestr o fodurdai cymeradwy.

Ni chaiff Cerbyd Hurio Preifat godi pobl o ochr y stryd nac aros wrth safleoedd hacni. Rhaid archebu'r cerbyd ymlaen llawn gyda gweithredwr hurio preifat ac ni chaiff y cerbyd weithredu'n annibynnol ar y gweithredwr hwnnw. Rhaid cael trwydded cerbyd oddi wrth y Cyngor cyn y gellir defnyddio'r cerbyd at y diben hwn.

Manylion Cerbydau Hurio Preifat

  • Ni chaiff y cerbyd fod yn ddu nac unrhyw liw y gellid tybio iddo fod yn ddu nac edrych fel cerbyd hacni e.e. tacsi TX Llundain.
  • Mae'n rhaid bod gan y cerbyd bedair olwyn, o leiaf bedwar drws a gyriant llaw dde.
  • Rhaid i'r cerbyd fod yn salŵn, car stâd, cerbyd amlbwrpas (M.P.V.) neu fws mini sydd ag 8 sedd neu lai i deithwyr, ac ni chaiff fod yn gerbyd mawr o fath 4x4, e.e. cerbyd maint Range Rover neu Mitsubishi Shogun. Gallai cerbydau 4x4 llai gael eu hystyried e.e. os ydynt yn deillio o gerbydau math salŵn teuluol.
  • Mae'n rhaid bod digon o le i eistedd yn y cerbyd, ynghyd â lle i'r pen a'r pen-gliniau ac ati, yn unol â'r manylion yn y Polisi Cerbydau Hacni a Hurio Preifat.
  • Rhaid i'r cerbyd gael ei adeiladu fel bod y drysau'n gallu agor yn ddigon llydan i adael i bobl fynd i mewn ac allan o'r cerbyd yn hawdd a pheidio ag achosi unrhyw anghyfleustra i deithwyr.
  • Yn achos cerbyd sy'n cludo mwy na 4 teithiwr, ni ddylid bod angen symud unrhyw sedd i adael i deithiwr fynd i mewn neu allan o'r cerbyd.
  • Ni fydd cerbydau'n cael eu trwyddedu os oes ganddynt 3 rhes o seddi, e.e. cerbydau cludo criw, lle y mae'n rhaid gwyro seddi ymlaen neu eu symud er mwyn mynd at y rhes gefn, oni bai bod un sedd yn y rhes ganol yn cael ei thynnu oddi yno i alluogi pobl i fynd i'r seddi cefn yn ddirwystr. Rhaid diogelu gosodiad y sedd sy'n cael ei thynnu i hwyluso mynediad yn unol â'r disgrifiad, er mwyn atal y sedd rhag cael ei hailosod yn hawdd yn y cerbyd. 
  • Os ceir mynediad i'r seddi cefn drwy fwlch rhwng y seddi yn y rhes ganol, rhaid cael bwlch o 30cm o leiaf er mwyn gallu mynd yn hwylus i'r seddi cefn.
  • Rhaid i oedran y cerbyd fod o fewn terfynau penodol, a bennir yn bennaf gan ddyddiad cofrestru cyntaf y cerbyd neu, os yw'r cerbyd wedi'i fewnforio, y dyddiad gweithgynhyrchu fel y'i disgrifir yn y Polisi Cerbydau Hacni a Hurio Preifat.
  • Rhaid bod digon o seddi yn y cerbyd i gludo o leiaf pedwar teithiwr, ond dim mwy nag wyth, yn ogystal â'r gyrrwr. Bydd nifer y seddi'n cael ei bennu yn unol â pharagraffau (i)(a) ac (i)(b) a pharagraff (ii) o Reoliad 42 Rheoliadau Cerbydau Ffyrdd (Cofrestru a Thrwyddedu) 1971.
  • Os yw'r cerbyd yn gar stâd neu'n gerbyd amlbwrpas fel y'i disgrifir yn Nogfen Gofrestru'r Cerbyd (V5), mae'n rhaid bod gril neu ddyfais debyg wedi'i gosod ynddo i atal bagiau sy'n cael eu cludo yn y rhan gefn rhag dod i gysylltiad â phobl yn y sedd gefn.
  • Rhaid i bob cerbyd gyrraedd safon ofynnol y cyngor, sy'n uwch na'r MOT arferol. Mae gan y cyngor dystysgrif cydymffurfio a gyflwynwyd gan V.O.S.A. ac mae wedi cymeradwyo modurdai y mae'n rhaid eu defnyddio i archwilio cerbydau.
  • Rhaid bod diffoddwr tân (math powdwr sych, sy'n pwyso o leiaf 1kg) wedi'i osod yn y cerbyd mewn man hwylus i'w ddefnyddio.
  • Rhaid i bob cerbyd trwyddedig gadw blwch cymorth cyntaf sy'n cydymffurfio â'r safonau ac sy'n cynnwys yr eitemau a restrir yn Atodlen 7, Rheoliadau Cerbydau Ffyrdd (Adeiladwaith a Defnydd) 1986.

Y Weithdrefn ar gyfer Trwyddedu Cerbyd

Cyn trwyddedu cerbyd, dylech ymweld â'r swyddfa drwyddedu i wneud cais, gan sicrhau bod gennych y dogfennau gofynnol, fel a ganlyn:

  • Dogfen gofrestru'r cerbyd neu, os nad yw ar gael, tystiolaeth o'i brynu
  • Tystysgrif neu nodyn yswiriant cyfredol ar gyfer defnyddio'r cerbyd at ddiben hurio preifat, sy'n dangos rhif cofrestru'r cerbyd dan sylw
  • Ffi'r drwydded - rhestr Ffïoedd Trwyddedu Cerbydau Hacni a Hurio Preifat
  • Ffurflen gais am drwydded Cerbyd Preifat wedi'i llenwi

Cyn cyhoeddi trwydded i'r cerbyd at ddibenion hurio preifat, rhaid i'r cerbyd basio prawf llawn ac archwiliad gan y cyngor yn un o'r modurdai cymeradwy (isod).

Rhaid trefnu'r prawf/archwiliad hwn yn uniongyrchol gyda'r modurdy o'ch dewis.

Rhaid i ail brofion gael eu cynnal gan yr un modurdy a wnaeth y prawf cyntaf. Ni chodir ffi ychwanegol ar gyfer yr ail brawf, ar yr amod iddo gael ei gynnal o fewn saith diwrnod o'r prawf cyntaf.

Ni chaiff ail brawf ei gynnal ar ôl saith diwrnod, a bydd angen cynnal prawf llawn a thalu ffi newydd.

Pan fydd y cerbyd wedi pasio'r prawf, bydd y modurdy'n cyhoeddi tystysgrif. Mae'n rhaid cyflwyno'r dystysgrif hon i'w harchwilio gan Swyddog Trwyddedu ac, ar ôl hynny, bydd dogfennau'r drwydded yn cael eu cyflwyno.

Plât trwydded/arwyddion drws cyfatebol

Pan fydd y cerbyd wedi'i drwyddedu, bydd y canlynol yn cael eu dosbarthu: plât trwydded gwyrdd y mae'n rhaid ei osod wrth gefn y cerbyd, trwydded fewnol gyfatebol sy'n dangos dyddiad terfyn y drwydded, a dau arwydd drws sy'n dangos rhif y drwydded ac y mae'n rhaid eu harddangos ar ddwy ochr y cerbyd. Hefyd, dylai'r cerbyd arddangos enw a rhif ffôn y gweithredwr hurio preifat mewn man amlwg.

Rhaid gosod y plât trwydded cefn yn ddiogel wrth ran gefn y cerbyd yn unol ag amodau trwydded y cerbyd. Nid yw arddangos y plât yn y ffenestr gefn yn dderbyniol.

Er mwyn cynorthwyo perchnogion trwyddedig i gydymffurfio â'r amod hwn o'r drwydded, mae'r cyngor wedi cael cyflenwad o fracedi sydd wedi'u creu i'w defnyddio gyda'r plât. Gall perchnogion cerbydau brynu'r bracedi hyn oddi wrth y cyngor.

Cerbydau sydd â seddi i fwy na 4 teithiwr

Os yw rhywun yn dymuno cael trwydded cerbyd hurio preifat ar gyfer cerbyd sydd â seddi i fwy na 4 teithiwr ond llai na 9, dylai gysylltu â'r Cyngor i gael arweiniad ynghylch a yw'r cerbyd yn addas i'w drwyddedu. Mae'r amod ychwanegol canlynol yn berthnasol i gerbydau sydd wedi'u trwyddedu i gludo mwy na 4 teithiwr.

Rhaid i bob teithiwr allu mynd i mewn ac allan o'r cerbyd heb fod angen iddynt ddringo dros seddi eraill neu fagiau, a byddai hyn yn cynnwys pan fo angen gwyro sedd ymlaen i adael rhywun i fynd i mewn neu allan. (Pe bai teithiwr yn cael anaf neu'n marw, efallai na fyddai modd gwyro sedd o'r fath ymlaen os oes rhywun yn eistedd arni).

Gorsafoedd Profi Enwebedig

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi enwebu'r modurdai canlynol i gynnal profion Cerbydau Hacni a Hurio Preifat.

Motazone

5 North Side, Ty Coch Way, Cwmbran, NP44 7EZ

Ffôn: 01633 860606

Pontypool Service Station

Uned 1, Gemini Works, Pont-y-pŵl, NP4 6YW
01495 758213

Mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth am drwyddedau cerbydau hacni a hurio preifat, cysylltwch â'r Adran Drwyddedu, Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, New Inn, Pont-y-pŵl NP4 0LS.

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon. 

Diwygiwyd Diwethaf: 12/05/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing Team

Ffôn: 01633 647284/647286

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig