Gweithredwyr Hurio Preifat

Mae gweithredwr hurio preifat yn gyfrifol am dderbyn archeb am gerbyd hurio preifat ac anfon y cerbyd a'r gyrrwr i gyflawni'r archeb honno.

Mae deddfwriaeth ac amodau trwydded yn gosod dyletswyddau ar weithredwyr hurio preifat i sicrhau bod y cerbydau a'r gyrwyr sy'n gweithredu iddynt wedi'u trwyddedu'n briodol. Cyn cael trwydded fel gweithredwr hurio preifat, mae'n ofynnol bod ymgeiswyr yn mynd drwy wiriadau penodol a rhaid eu bod wedi cael y caniatâd cynllunio perthnasol ar gyfer yr safle lle byddant yn derbyn archebion. I gael ffurflen gais neu gyngor pellach, cysylltwch â'r Swyddfa Drwyddedu.

Ffïoedd

Mae Trwydded Gweithredwyr Hurio Preifat yn adnewyddadwy bob pum mlynedd Gallwch lawrlwytho'r rhestr bresennol o Ffïoedd Trwyddedu ar gyfer Trwyddedau Cerbydau Hacni a Hurio Preifat o'r fan hon.

Rhestr o Weithredwyr Hurio Preifat Trwyddedig

Nid oes rhestr wedi'i chyhoeddi ar hyn o bryd, ond mae ar gael trwy wneud cais amdani er mwyn cynorthwyo aelodau'r cyhoeddi i gadarnhau a yw gweithredwr hurio preifat wedi'i drwyddedu'n gywir.

Mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth am drwyddedu cerbydau hacni a hurio preifat, cysylltwch â'r Adran Drwyddedu, Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, New Inn, Pont-y-pŵl NP4 0LS.

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon. 

Diwygiwyd Diwethaf: 12/05/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing Team

Ffôn: 01633 647286

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig