Bargen Torfaen
Beth yw hi a sut allwch chi gymryd rhan?
Dull cydweithredol newydd gan y cyngor i adeiladu cymuned deg, gynhwysol a gwydn trwy weithio’n agos â thrigolion a phartneriaid i gyd-ddylunio a chyflenwi gwasanaethau yw Bargen Torfaen.
Fel cyngor, mae ein gweledigaeth yn un o ddyfodol heb anghydraddoldeb, ble mae pawb yn ffynnu.
I lwyddo yn hyn o beth, mae angen i ni greu newid parhaol trwy adeiladau ymddiriedaeth, meithrin cydgyfrifoldeb, a gyrru arloesi trwy gydweithrediad cryf rhwng y cyngor, trigolion a phartneriaid.
I wneud hyn, rydym yn cyflwyno ffordd newydd o weithio gyda thrigolion a chymunedau yn hytrach na chyflenwi gwasanaethau iddyn nhw’n unig.
BETH yw’r Fargen?
- Mudiad yw’r Fargen; mae’n feddylfryd sy’n ymwneud â thrawsnewid y ffordd yr ydym oll yn gweithio gyda’n gilydd
- Mae’r Fargen yn ymwneud â datblygu perthynas newydd â thrigolion a phartneriaid
- Mae’r Fargen yn ymwneud ag adeiladu ar gryfderau a chapasiti mewn cymunedau
- Mae’r Fargen yn ymrwymiad gwirioneddol at weithio GYDA’N GILYDD i ddylunio a chyflenwi gwasanaethau a chyfleusterau.
Bydd y Fargen yn canolbwyntio ar bum cenhadaeth i wella bywydau:
- Blynyddoedd Cynnar – Adeiladu Dyfodol Disglair: buddsoddi’n gynnar, buddsoddi’n glyfar
- Dysgu Gydol Oes a Gwydnwch: sgiliau yw’r cytundeb cymdeithasol newydd
- Lles Trwy Arweinyddiaeth Gymunedol: mae iechyd yn cael ei greu mewn cymunedau, nid ysbytai
- Economi Ffyniannus a Lleoedd Bywiog: twf gyda phwrpas, nid twf er ei les ei hun
- Cymunedau wedi’u Grymuso – Pŵer a Llwyddiant wedi’u Rhannu: o ddefnyddwyr gwasanaeth i gyd-ddylunwyr newid.
Bydd yn cael ei chyflenwi yn unol â phum egwyddor a ddatblygwyd ac a gytunwyd gan Gynulliad Pobl Torfaen:
- Gweithio gydag ac i gymunedau
- Adeiladau ymddiriedaeth trwy atebolrwydd a chyfathrebu
- Grymuso cymunedau ac annog cydgyfrifoldeb
- Lleihau rhwystrau at gyfranogiad
- Mynd ar ôl cynaliadwyedd amgylcheddol.
PAM fod angen Bargen?
- Ers 2010, mae cynghorau yng Nghymru wedi colli dros un rhan o bump o’u cyllid
- Yn y cyfamser, mae gwasanaethau ar sail galw wedi cynyddu’n sylweddol
- I lenwi’r bwlch, mae cynghorau wedi codi incwm ac wedi torri gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau dewisol a chyffredinol – yr union bethau sy’n atal iechyd gwael ac sy’n lleihau galw hirdymor.
- Trwy ddod yn Gyngor Marmot, rydym wedi derbyn yr egwyddorion sy’n anelu at fynd i’r afael â ffactorau cymdeithasol-economaidd sy’n effeithio ar iechyd a lles pobl.
- Mae Bargen Torfaen yn cyd-fynd â Torfaen Y Dyfodol: Cynllun Sirol a bydd yn ffurfio cynlluniau cyflenwi blynyddol.
SUT allwch chi gymryd rhan?
- Os oes gyda chi syniad i’r Fargen – er enghraifft, gwasanaeth neu gyfleuster cymunedol newydd yn eich ardal leol – cysylltwch â’ch cynghorydd lleol.
- Clywch y diweddaraf am Fargen Torfaen trwy gofrestru ar wefan Cymryd Rhan Torfaen.
- Gwirfoddolwch yn eich cymuned leol neu ymunwch â grŵp lleol.
- Cefnogwch gynhyrchwyr a busnesau lleol a chanol trefi.
- Edrychwch am enghreifftiau i Fargen Torfaen ar waith ar ein sianel YouTube
Diwygiwyd Diwethaf: 28/04/2026
Nôl i’r Brig