Cyngor Marmot
Mae Cynghorau Torfaen a Blaenau Gwent yn falch iawn mai nhw yw’r Cynghorau Marmot cyntaf yng Nghymru.
Rydyn ni eisiau dyfodol heb anghydraddoldeb. Dyfodol lle gall pawb ffynnu mewn cymuned deg, gynhwysol a chydnerth
Rydyn ni wedi ymrwymo i uchelgais feiddgar a phwysig: lleihau anghydraddoldebau iechyd a gwella bywydau pawb yn ein cymunedau – does dim gwahaniaeth ble maen nhw'n byw, faint maen nhw'n ei ennill, neu o ba gefndir maen nhw'n dod.
Beth yw Cyngor Marmot?
Daw'r term o waith yr Athro Syr Michael Marmot, arbenigwr blaenllaw ar anghydraddoldeb iechyd.
Mae ei ymchwil yn dangos bod yr amodau y mae pobl yn cael eu geni, yn tyfu, yn byw, yn gweithio, ac yn heneiddio ynddynt – fel tai, addysg, incwm a swyddi – yn cael effaith enfawr ar eu hiechyd a'u llesiant.
Rydyn ni’n rhoi'r feddylfryd hon ar waith trwy:
- Fynd i'r afael â’r achosion wrth wraidd iechyd gwael, nid dim ond y symptomau
- Gwneud tegwch yn rhan greiddiol o’r ffordd y mae penderfyniadau'n cael eu gwneud
- Gweithio gyda phartneriaid, ar draws gwasanaethau a gyda phobl leol, er mwyn creu cyfleoedd gwell i bawb
- Adeiladu dyfodol iachach, mwy cyfartal, ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Pam mae hyn yn bwysig?
Ar hyn o bryd, mae pobl yn rhannau o'n cymunedau yn byw bywydau sylweddol fyrrach a llai iach nag eraill – a hynny’n aml ychydig filltiroedd oddi wrth ei gilydd. Credwn nad yw hyn yn anochel. Mae'n annheg, ac mae'n rhywbeth y gallwn ei newid.
Rydyn ni’n defnyddio'r dystiolaeth ddiweddaraf ac yn gweithio i lunio polisïau a gwasanaethau sy'n mynd i'r afael ag Egwyddorion Marmot:
- Rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i bob plentyn.
- Galluogi pob plentyn, unigolyn ifanc ac oedolyn i fanteisio i’r eithaf ar ei alluoedd a sicrhau rheolaeth dros ei fywyd.
- Creu cyflogaeth deg a gwaith da i bawb.
- Sicrhau safon byw iach i bawb.
- Creu a datblygu lleoedd a chymunedau iach a chynaliadwy.
- Cryfhau rôl atal salwch a’i effaith.
- Mynd i’r afael â hiliaeth, gwahaniaethu a’u canlyniadau.
- Mynd ar drywydd cynaliadwyedd amgylcheddol a thegwch iechyd gyda’n gilydd.
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mai Cymru yw'r Genedl Marmot gyntaf yn y byd – carreg filltir bwysig. Mae Torfaen a Blaenau Gwent wedi bod ar flaen y gad ar y daith hon, gan arwain y ffordd a dangos beth sy'n bosibl pan fydd tegwch yn flaenoriaeth.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Dydy dod yn Gyngor Marmot ddim yn brosiect untro - mae'n ymrwymiad hirdymor. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid, gwrando ar ein cymunedau, a chymryd camau beiddgar i wneud bywyd yn decach ac yn iachach i bawb.
Gyda'n gilydd, rydyn ni'n adeiladu dyfodol sy’n sicrhau nad yw lle rydych chi'n byw yn penderfynu pa mor dda neu ba mor hir fyddwch chi'n byw.
Diwygiwyd Diwethaf: 15/09/2025
Nôl i’r Brig