Y Cyhoedd yn cymryd rhan mewn craffu

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 16 Medi 2025
screenshot-2024-12-11-142739_crop

Mae nifer y cyfleoedd i bobl gymryd rhan ym mhroses drosolwg a chraffu'r cyngor wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl yr Adroddiad Craffu Blynyddol, mae ffocws wedi bod ar gynyddu ymgysylltiad â'r cyhoedd gan gynnwys cyflwyno Protocol Siarad Cyhoeddus, i alluogi trigolion i ofyn cwestiynau a rhoi tystiolaeth mewn cyfarfodydd craffu, a hwb democratiaeth ar-lein newydd i'w gwneud hi'n haws i drigolion awgrymu pynciau a dilyn cynnydd.

Mae'r adroddiad, a gyflwynwyd yn y Cyngor Llawn heddiw, hefyd yn tynnu sylw at nifer y pynciau a archwiliwyd gan y pum pwyllgor, gan gynnwys pedwar a awgrymwyd gan aelodau o'r cyhoedd: ymddygiad gwrthgymdeithasol, atal digartrefedd, newid yn yr hinsawdd ac argyfwng natur, a phresenoldeb a gwahardd mewn ysgolion gyda ffocws ar iechyd meddwl a lles.

Dywedodd y Cynghorydd Rose Seabourne, cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg: "Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein pwyllgor wedi craffu ar amrywiaeth eang o feysydd pwysig.

"Rydym hefyd wedi cynnal ymweliadau ag ysgolion sydd wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr i ni ar brofiadau dysgwyr, staff a llywodraethwyr.

"Rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i staff, rhieni, llywodraethwyr ac aelodau o'r cyhoedd sydd wedi cyfrannu eu barn a'u harbenigedd. Mae eu mewnbwn wedi bod yn hanfodol i'n helpu i lunio argymhellion sy'n cryfhau addysg ar draws Torfaen."

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r tîm craffu hefyd wedi cwrdd ag aelodau o Banel Pobl Torfaen a Fforwm Ieuenctid Torfaen.

Ym mis Rhagfyr, aeth dau gynrychiolydd o’r fforwm ieuenctid i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Trawsbynciol Adnoddau a Busnes i roi adborth ar Strategaeth Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc y cyngor.

Mae'r pum pwyllgor trosolwg a chraffu yn gysylltiedig â meysydd gwasanaeth y cyngor: Oedolion a Chymunedau, Addysg, Plant a Theuluoedd, Yr Economi a'r Amgylchedd ac Adnoddau a Busnes Trawsbynciol.

Mae'r pwyllgorau yn eistedd rhwng Medi a Mai.

Maen nhw’n yn penderfynu ar eu rhaglen waith bob haf, yn ystod cyfnod a elwir yn gyfnod gweledigaeth.

Mae eitemau’n cael eu dewis ar sail awgrymiadau gan gynghorwyr, aelodau o'r cyhoedd a chyfarwyddwyr strategol, a blaengynllun gweithredol a chynllun sirol blynyddol y cyngor. 

Gallwch weld y pynciau a fydd yn destun craffu eleni trwy glicio isod: https://cymrydrhan.torfaen.gov.uk/hub-page/democratiaeth-yn-nhorfaen

Diwygiwyd Diwethaf: 16/09/2025 Nôl i’r Brig