Blaenafon yn dathlu 25 mlynedd o statws Safle Treftadaeth y Byd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 5 Mawrth 2026
blaenavon-project_original

Bydd cyngerdd am ddim yn cael ei gynnal yn ddiweddarach y mis hwn i nodi pen-blwydd Blaenafon yn 25 oed fel safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Bydd y digwyddiad, a gynhelir yn Neuadd y Gweithwyr Blaenafon, ddydd Gwener 20 Mawrth, yn cynnwys perfformiadau gan Gôr Meibion Blaenafon, Band Tref Blaenafon, Cwmni Theatr Adhoc, Llysgenhadon Ieuenctid Treftadaeth y Byd a phlant ysgol lleol.

Mae tua 300 o docynnau ar gael ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu. Cliciwch isod i archebu tocynnau.

Daeth Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd ym mis Rhagfyr 2000 i gydnabod ei thirwedd gwneud haearn a mwyngloddio glo o’r 19eg ganrif sydd wedi'i chadw'n dda ac sy'n cynnwys tref Blaenafon.

Ers hynny mae wedi denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr a buddsoddiad o dros £50 miliwn.

Dywedodd y Cyng. Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Trawsnewidiodd statws UNESCO Blaenafon yr ardal - gan ei rhoi ar lwyfan y byd ochr yn ochr â safleoedd eraill fel Ynysoedd Galapagos a'r Taj Mahal.

"Bydd y cyngerdd yn cynnwys atgofion o'r rhai a oedd yn allweddol wrth gael cydnabyddiaeth swyddogol i’r ardal a bydd yn ddathliad o'r effaith y mae wedi'i chael ar ddiwylliant y dref yn ystod y cyfnod hwnnw.

"Rydym yn gobeithio y bydd llawer o drigolion lleol yn ymuno â ni i ddathlu carreg filltir mor bwysig yn hanes y dref."

Mae Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn cynnwys Gwaith Haearn Blaenafon, Amgueddfa Lofaol Cymru Big Pit a'r dirwedd ddiwydiannol ehangach.

Ym mis Rhagfyr, nododd Cyngor Tref Blaenafon ac Ysgol Gynradd Treftadaeth Blaenafon y pen-blwydd yn 25 oed trwy greu capsiwl amser i ddathlu bywyd ym Mlaenafon heddiw.

Ariennir cyngerdd pen-blwydd Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn 25 oed gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

I gael rhagor o wybodaeth am hanes diwydiannol Blaenafon, ewch i wefan Croeso Blaenafon.

Archebu tocynnau: Blaenavon World Heritage Site 25th Anniversary concert at Blaenavon Workmen's Hall event tickets from TicketSource

Diwygiwyd Diwethaf: 05/03/2026 Nôl i’r Brig