Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 19 Mehefin 2026
Mae menyw o Bont-y-pŵl wedi ei dyfarnu'n euog o droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn yn anghyfreithlon.
Heddiw yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd Lynda Cooper ddedfryd o 12 mis o garchar, wedi ei gohirio am ddwy flynedd gydag amodau, ar ôl iddi bledio'n euog i 11 o droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn heb drwydded. Roedd y troseddau hyn yn cynnwys achosi dioddef diangen a methu â diwallu anghenion lles anifeiliaid.
Gorchmynnwyd iddi hefyd dalu £10,000 tuag at gostau'r cyngor ynghyd â gordal o £187, a'i gwahardd rhag cadw cŵn am 10 mlynedd.
Clywodd y llys fod Miss Cooper wedi’i thrwyddedu i fridio cŵn rhwng 2022 a 2023, ond na adnewyddodd ei thrwydded yn y blynyddoedd dilynol.
Fis Gorffennaf 2024, cafodd Tîm Trwyddedu'r Cyngor gŵyn am les cŵn ac amheuaeth o fridio anghyfreithlon yng nghyfeiriad Miss Cooper. Ysgogodd hyn atgyfeiriad at yr RSPCA.
Pan aeth swyddogion yr RSPCA i’r cyfeiriad, gwrthodwyd mynediad iddynt ac nid oeddent yn gallu ymchwilio'n llawn i'r honiadau. Cododd hyn bryderon pellach am les yr anifeiliaid.
Fis Awst 2024, aeth swyddogion o dîm Trwyddedu a Safonau Masnach y Cyngor i gyfeiriad Miss Cooper, ynghyd â swyddogion o dîm Trwyddedu Anifeiliaid Cymru a milfeddyg, ar ôl sicrhau warant i gael mynediad gan y Llys Ynadon.
Yn ystod yr ymweliad, darganfu swyddogion 41 o gŵn a dau dorraid o gŵn bach. Daeth yr asesiad milfeddygol i'r casgliad fod y cŵn bach yn dioddef o ddiffyg maeth, ac roedd cyflyrau meddygol ychwanegol yn effeithio ar sawl un o’r cŵn. Canfuwyd hefyd eu bod yn byw mewn amodau anaddas, a oedd yn peryglu eu lles ymhellach. Cafodd y cŵn a'r cŵn bach eu symud o'r eiddo a chawsant y gofal a'r sylw meddygol yr oedd eu hangen arnynt.
Fis Hydref 2024, yn dilyn gwrandawiad gerbron Llys Ynadon Cwmbrân, rhoddwyd caniatâd i'r Cyngor i gymryd meddiant o'r cŵn a'r cŵn bach, ac ers hynny maent wedi cael eu hailgartrefu trwy Hope Rescue.
Meddai Daniel Morelli, Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd a'r Amgylchedd: "Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at werth y drefn drwyddedu ar gyfer bridio cŵn, a gwaith pwysig gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd awdurdodau lleol wrth ddiogelu iechyd a lles anifeiliaid - gwaith sy’n aml ddim yn cael ei weld.
"Methodd Miss Cooper â bodloni'r safonau sy'n ofynnol yn gyfreithiol, gan arwain at ddioddefaint sylweddol a diangen i nifer sylweddol o anifeiliaid.
"Ni fyddwn yn oedi rhag cymryd camau mewn achosion lle mae lles anifeiliaid yn cael ei esgeuluso, a hoffem ddiolch i'n hasiantaethau partner a Hope Rescue am eu rhan bwysig yn yr ymchwiliad a’r gofal a’r amddiffyniad dilynol a gafwyd ar gyfer y cŵn a'r cŵn bach yr effeithiwyd arnynt."
Meddai Zoe Phillips, Trwyddedu Anifeiliaid Cymru: "Awdurdododd Cyngor Torfaen swyddogion Trwyddedu Anifeiliaid Cymru i gynorthwyo gyda'r ymchwiliad oherwydd maint a chymhlethdod y pryderon a nodwyd yn yr achos hwn, ac mae'r canlyniad yn dangos yn glir y gwerth sydd i’w gael o weithio mewn partneriaeth.
"Gall awdurdodau lleol wynebu achosion lles anifeiliaid cymhleth sy’n gofyn am lawer o adnoddau, ac mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn sicrhau nad ydyn nhw'n delio â'r sefyllfaoedd hyn ar eu pennau eu hunain.
"Er bod yr amodau y daeth y swyddogion ar eu traws yn anodd dros ben, roedd y ffocws trwy gydol yr ymchwiliad ar ddiogelu lles yr anifeiliaid a sicrhau ymateb diogel, cyfreithlon a chymesur.
"Rydym hefyd yn ddiolchgar i Hope Rescue am ddarparu gofal ar unwaith, cefnogaeth barhaus ac ailgartrefu cyfrifol ar gyfer y cŵn i gyd."
Meddai Sara Rosser, Pennaeth Gweithrediadau Hope Rescue: "'Roedd hwn yn un o'r achosion mwyaf heriol a gofidus y mae ein tîm profiadol wedi bod yn rhan ohono. Nid oherwydd y nifer enfawr o gŵn yn unig, ond hefyd oherwydd eu cyflwr."
Ar ôl ein cyrraedd ni, roedd y cŵn mewn cyflwr torcalonnus- yn ddifrifol is na’u pwysau delfrydol, llawer ohonynt yn dioddef o glefyd deintyddol difrifol a heintiau clust cronig.
"Roedd y cŵn hŷn wedi colli màs cyhyrau a symudedd, ac roeddent wedi eu disbyddu cymaint yn gorfforol nad oeddent yn gallu cyrraedd y bwyd cyn y cŵn bach. Roedd llawer ohonynt, yn enwedig y cŵn ifancach, yn nerfus iawn ac yn brin o brofiadau bywyd ac felly roedd angen cymorth ac adsefydlu ychwanegol arnynt."
Anogir unrhyw un sydd â phryderon am les anifeiliaid i gysylltu ag animal.health@torfaen.gov.uk.