Enwebwch Fainc Hapus i Sgwrsio

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 18 Mehefin 2026

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd, rydyn ni’n dathlu'r gwirfoddolwyr, y mudiadau cymunedol a’r busnesau sy'n helpu pobl i deimlo cysylltiad a chefnogaeth a theimlo’n llai unig, yn unol â Bargen Torfaen.

Rydyn ni’n gosod placiau Hapus i Sgwrsio ar feinciau i annog pobl i aros am ychydig a chael sgwrs.

Mae'r placiau - a ddyluniwyd gan ddau ddisgybl ysgol gynradd - wedi'u gosod ar feinciau ar hyd llwybrau cerdded a beicio yng Nghanolfan Siopa Cwmbrân, Llanyrafon a Chroesyceiliog yn barod. Bydd ysgolion cynradd ac uwchradd hefyd yn cael plac ar gyfer meinciau ar yr iard.

Nawr, rydyn ni’n gofyn i drigolion awgrymu meinciau mewn mannau eraill a fyddai'n elwa ar gael plac Hapus i Sgwrsio - ac i ystyried defnyddio'r meinciau i ddechrau sgwrs. Cliciwch isod i enwebu mainc Hapus i Sgwrsio ar Cymryd Rhan Torfaen.

Mae'r placiau Hapus i Sgwrsio wedi cael eu hariannu gan dîm Teithio Llesol y Cyngor a byddant yn cael eu cefnogi gan y tîm Cymunedau, a fydd yn ymweld â'r meinciau ac wrth law yn barod i sgwrsio.

Meddai Joel Cantelo, Swyddog Meithrin Gallu Cymunedol yng Nghwmbrân: "Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Unigrwydd, mae'n werth cofio bod tua un o bob chwech o oedolion yng Nghymru yn dweud eu bod yn teimlo'n unig — ond gall sgwrs syml wneud gwahaniaeth go iawn.

"Does dim rhaid iddo fod yn rhywbeth mawr - gall sgwrs sydyn, 'helô' cyfeillgar, neu eiliad fach o gyswllt helpu rhywun i deimlo eu bod yn cael eu gweld a'u gwerthfawrogi. Mae cyswllt yn dechrau gyda ni, ac yn aml y sgyrsiau bob-dydd yna yw'r rhai sydd bwysicaf."

Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan fusnesau a staff yn M Shopping, yng Nghwmbrân, hefyd, a fydd yn defnyddio'r meinciau ac yn siarad â siopwyr.

Meddai Simon Whiting, Rheolwr y Ganolfan: "Mae M Cwmbrân yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Chyngor Torfaen ar gyfer y prosiect gwych hwn. Mae’r pwyslais ar lesiant cymunedol a siarad, ac felly roedden ni’n teimlo bod yn rhaid i ni fod yn rhan ohono.

"Edrychwn ymlaen at lawer o sgyrsiau ystyrlon a gobeithiwn y byddwn yn gallu helpu ein cymuned trwy wneud rhywbeth mor syml â siarad."

Cynhaliwyd cystadleuaeth i ddylunio'r placiau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ym mis Mawrth.

Dewiswyd Charlotte Edwards, o Ysgol Gynradd Llanyrafon, a Zine Khan, o Ffederasiwn Ffordd Blenheim a Choed Eva fel yr enillwyr a chafodd y ddau daleb Amazon a bag nwyddau.

Enwebu mainc:https://cymrydrhan.torfaen.gov.uk/meinciau-hapus-i-sgwrsio

Diwygiwyd Diwethaf: 18/06/2026 Nôl i’r Brig