Wedi ei bostio ar Dydd Iau 25 Mehefin 2026
Rydym yn dathlu pŵer digwyddiadau cymunedol i ddod â phobl at ei gilydd, meithrin balchder dinesig a rhoi hwb i'r economi leol. Mae parti yn y Parc, ym Mhont-y-pŵl, yn denu miloedd o bobl bob mis Gorffennaf.
Cynhelir Parti yn y Parc eleni ym Mharc Pont-y-pŵl ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf.
Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim sy’n cael ei drefnu gan Gyngor Cymuned Pont-y-pŵl yn cynnwys gorymdaith, cerddoriaeth fyw, parthau gweithgareddau a stondinau marchnad.
Mi fydd hefyd yn cynnal y nesaf o ddigwyddiadau Pentref Bargen Torfaen, yn dilyn ei lansiad llwyddiannus yn Nigwyddiad Mawr Cwmbrân yn gynharach y mis hwn.
Bydd y pentref, sydd wedi ei leoli yn y Cae Uchaf, yn denu grwpiau cymunedol, mudiadau trydydd sector a phartneriaid fel Cynghrair Gwirfoddol Torfaen a Halo Leisure i ymuno â thimau’r cyngor er mwyn helpu i ddod â Bargen Torfaen yn fyw.
Bydd cyfle i ymwelwyr ddysgu sut mae'r cyngor yn gweithio'n wahanol gyda sefydliadau lleol i wella bywydau pobl a bydd rhaglen lawn o weithgareddau, gan gynnwys:
- Lolfa i wirfoddolwyr
- Gweithgareddau dan arweiniad y gymuned
- Gweithgareddau iechyd a llesiant gyda Halo Leisure
- Gwybodaeth am dai a chymorth i bobl ifanc (16–25) trwy Allweddi Annibyniaeth
- Gweithgareddau ailgylchu ac ailddefnydd, gan gynnwys lori ailgylchu
- Siop ailddefnyddio sy'n cael ei redeg gan Wastesavers (arian parod yn unig)
- Maethu – Holi ac Ateb
- Amgueddfa Torfaen yn dangos eu Caffi Atgofion
Gall ymwelwyr hefyd lenwi arolwg cyflym i gael cyfle i ennill tri mis o aelodaeth am ddim gan Halo Leisure.
Bwriad Pentref y Fargen yw dod â phobl at ei gilydd, a’u cysylltu drwy gyfleoedd a chefnogaeth.
Ar ôl ymateb mor gadarnhaol yng Nghwmbrân, mae pawb yn gyffrous i ddod â’r pentref i Bont-y-pŵl a bod yn rhan o'r fath ddigwyddiad cymunedol gwych. Anogwn bawb i ddod draw, cymryd rhan a gweld beth sydd ar gael.
Mae Pentref y Fargen yn rhan o Bargen Torfaen, sef dull newydd sy'n canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth â chymunedau i greu newid cadarnhaol.