Pentref y Fargen yn ymuno â'r parti

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 8 Gorffennaf 2026
Torfaen Deal Village Party in the Park

Dim ond pedwar diwrnod sydd tan y Parti yn y Parc, Pont-y-pŵl - a'r Pentref Bargen Torfaen nesaf.

Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim a drefnir gan Gyngor Cymuned Pont-y-pŵl yn cynnwys gorymdaith, cerddoriaeth fyw, parthau gweithgareddau a stondinau marchnad.

Bydd Pentref Bargen Torfaen yno hefyd, yn dilyn ei lansiad llwyddiannus yn Nigwyddiad Mawr Cwmbrân yn gynharach y mis hwn.

Bydd y Pentref yn y Cae Uchaf ger y bandstand, a bydd grwpiau cymunedol, sefydliadau trydydd sector a phartneriaid yn ymuno â thimau'r cyngor i helpu i ddod â Bargen Torfaen yn fyw.

Bydd ymwelwyr yn gallu gweld sut mae'r cyngor yn gweithio'n wahanol gyda sefydliadau lleol i wella bywydau pobl a rhaglen lawn o weithgareddau, gan gynnwys:

  • Lolfa gwirfoddoli 
  • Gweithgareddau cymunedol
  • Gweithgareddau iechyd a lles gyda Hamdden Halo
  • Gwybodaeth am dai a chefnogaeth i bobl ifanc (16–25) trwy Allweddi at Annibyniaeth
  • Gweithgareddau ailgylchu ac ailddefnyddio, gan gynnwys lori ailgylchu
  • Siop ailddefnyddio gyda Wastesavers (arian parod yn unig)
  • Holi ac Ateb Maethu 
  • Amgueddfa Torfaen yn dangos eu Caffi Cof 

Gall ymwelwyr hefyd gwblhau arolwg cyflym am y cyfle i ennill tri mis o aelodaeth am ddim gyda Hamdden Halo.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt: "Hoffwn ddiolch i gynghorau cymuned Pont-y-pŵl a Chwmbrân am gefnogi Pentref Bargen Torfaen.

"Mae'r digwyddiadau hyn yn dod â phobl at ei gilydd, yn meithrin ymdeimlad o falchder dinesig a lles ac yn rhoi hwb i'r economi leol sy'n gyson â'r hyn y mae'r Fargen yn ceisio’i gyflawni."

Mae Pentref y Fargen yn rhan o Fargen Torfaen, dull newydd sy’n canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth gyda chymunedau i greu newid cadarnhaol.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 10/07/2026 Nôl i’r Brig